Skip to content

Mae preswylwyr cynllun byw’n annibynnol yn y Fflint wedi dod at ei gilydd i nodi Sul y Cofio 2025 a chreu arddangosfa drawiadol o babïau wedi’u gwneud â llaw. Maent wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Maer i gydnabod eu teyrnged greadigol.

Mae Llys Raddington, yng nghanol tref y Fflint, yn gynllun byw’n annibynnol i bobl dros 60 oed. Mae’r preswylwyr yn mwynhau bywyd cymdeithasol amrywiol, ac fe wnaethant gael syniad i greu arddangosfa o babïau.

Dywedodd y preswyliwr Jane Swinton a fu’n gwasanaethu gyda’r Awyrlu: "Dechreuodd y prosiect hwn ar ôl i mi gael syniad am 3 o’r gloch y bore, ac yna fe aethon ni ati i greu cynllun. Fe wnaethon ni ofyn i’n cyd-breswylwyr am gymorth i gasglu eu hen boteli plastig er mwyn dechrau ar y gwaith. Doedden ni ddim yn sylweddoli ein bod ni mor artistig! Gan ein bod ni’n nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedden ni’n teimlo fod eleni yn amser perffaith i ddweud ‘Diolch yn fawr’ i bawb a fu’n gwasanaethu i sicrhau ein rhyddid.”
Jane Swinton
preswyliwr

Penderfynodd Jane, ynghyd â’r preswylwyr Susan Peers, Barbara Foulkes a Maureen Parry, baentio gwaelodion y poteli plastig yn goch i greu’r gosodiad pabïau. Mae’r arddangosfa yn cynnwys cannoedd o flodau wedi’u gwneud â llaw a gafodd eu clymu’n gelfydd i rwyll wifrog. Yna, defnyddiwyd goleuadau coch trawiadol i oleuo’r gwaith celf a dau silwét o filwr.

“Diolch i’w creadigrwydd a’u hymroddiad maen nhw wedi creu teyrnged hardd ac ystyrlon, sy’n anrhydeddu diwrnod o gofio arbennig. Diolch i chi am eich amser, ymdrech a’ch gwaith ysbrydoledig.”
Cynghorydd Russell Davies
Maer y Fflint
“Mae’r arddangosfa pabïau yn llwyddiant ysgubol. Mae’n wych gweld y preswylwyr yn derbyn y clod haeddiannol hyn am eu creadigrwydd a’u hymdrech i greu teyrnged ystyrlon ar gyfer Sul y Cofio.”
Carol Thomas
rheolwr gwasanaethau gofal ychwanegol ClwydAlyn

Bydd yr arddangosfa i’w gweld am gyfnod ar ôl Sul y Cofio, felly bydd cyfle i gymuned Llys Raddington dalu teyrnged i’r rhai sydd wedi marw mewn rhyfeloedd.

I gael rhagor o wybodaeth am Llys Raddington, ewch  i: https://www.clwydalyn.co.uk/cy/llys-raddington-flintshire/