Mae Freya Rees, artist a phreswyliwr ifanc o’r Rhyl, eisoes wedi dangos gwydnwch a chryfder cymeriad arbennig am rywun mor ifanc. Ar ôl rhagori yn ddiweddar yn ei harholiadau Safon Uwch, mae Freya wedi creu cynfas gwreiddiol trawiadol ar thema digartrefedd, sydd bellach i’w weld mewn lle amlwg ym mhencadlys ei chymdeithas dai, ClwydAlyn, yn Llanelwy.
Dydy bywyd ddim wastad wedi bod yn hawdd i Freya Rees, 19 oed, ond am flynyddoedd lawer mae celf wedi cynnig tawelwch meddwl, cyfrwng mynegiant a gobaith yn ei bywyd. Mae Freya wedi dioddef o afiechyd hir drwy gydol ei phlentyndod, ac mae creu celf yn fwy na hobi iddi; mae’n rhoi pleser iddi ac yn ffordd o fynegi ei hemosiynau, a chyfleu ei natur benderfynol ac optimistaidd.
Yn ddiweddar, daeth Freya i bencadlys cymdeithas dai ClwydAlyn i ddadorchuddio darn o waith celf a gafodd ei greu’n arbennig ganddi, yn ogystal â phlac yn cydnabod ei hymroddiad a’i chreadigrwydd.
Yn 11 oed, cafodd Freya ddiagnosis o afiechyd a threuliodd gyfnodau hir mewn ysbytai. Pan oedd yn 17 oed, dechreuodd fyw’n annibynnol yn ei chartref ei hun ac yn anffodus wynebodd straen a thrawma mawr. Mae hi wedi defnyddio ei phrofiadau i ysgogi ei gwaith celf. Mae llawer o’r gweithiau hyn yn canolbwyntio ar yr amser a dreuliodd yn yr ysbyty a’r gwasanaethau cymorth sydd wedi rhoi help iddi.
Yn fwy diweddar, mae Freya wedi cael cymorth gan Swyddog Ymyriadau Cynnar ClwydAlyn, Lindsay Wright, a sylwodd ar ddawn artistig Freya ar unwaith.
“Mae’r gwaith celf a gafodd ei greu gan Freya ar gyfer ClwydAlyn yn wirioneddol arbennig. Mae ei gwaith yn portreadu gwerthoedd ClwydAlyn mewn ffordd wych, a hefyd yn arddangos ei harddull unigryw a’i dehongliad personol.”
Oherwydd ei dawn amlwg, mae’r cynfas mawr a baentiodd Freya ar thema digartrefedd bellach yn cael ei arddangos gyda balchder ym mhencadlys ClwydAlyn yn Llanelwy.
Yn y dyfodol, gobaith Freya yw cael swydd yn y diwydiant creadigol. Ar hyn o bryd mae hi’n gwirfoddoli ac yn gweithio gyda sefydliadau lleol i ddylunio gwaith celf, cardiau a phosteri.
“Rwy’n gobeithio cael swydd lle gallaf fod yn rhan o’r broses greadigol. Yn fy marn i, mae’n bwysig achub ar bob cyfle mewn bywyd; dydych chi byth yn gwybod pa ddrysau fydd yn agor i chi!
“Mae dod o gefndir anodd wedi rhoi’r gwydnwch a’r cymhelliad i mi weithio’n galed i gyflawni fy ngobeithion.”
Mae Freya yn angerddol dros droi heriau yn ganlyniadau cadarnhaol, ac ar hyn o bryd mae hi’n edrych ar ffyrdd newydd o ddefnyddio ei dawn er budd eraill. Mae hi’n creu cynfas mawr arall ar gyfer CAHMS yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn gweithio ar brosiect i greu darnau croesawgar ar gyfer ward plant Ysbyty Glan Clwyd, yn dylunio cardiau Nadolig ar gyfer Ramblers Cymru ac yn rhan o brosiect i ddylunio gwaith celf i godi ymwybyddiaeth am hunan-laddiad ar gyfer y gymuned leol. Yn ogystal â hyn, mae hi’n paratoi ar gyfer ei stondin ym Marchnad Grefftau’r Nadolig a gynhelir ym Marchnad y Frenhines, Y Rhyl.