Mae ClwydAlyn, y gymdeithas dai o Lanelwy, wedi cyhoeddi bod y sefydliad wedi dod yn Gyflogwr Endometriosis Gyfeillgar, gyda’r nod o gefnogi cydweithwyr a all fod yn cael trafferth ymdopi ag endometriosis neu unrhyw gyflyrau iechyd mislifol eraill.
Fel cyflogwr lleol gyda tua 650 o gydweithwyr, mae’r gymdeithas dai sydd â’i phencadlys yn Sir Ddinbych, wedi cydnabod yr angen i gefnogi cydweithwyr sy’n dioddef o endometriosis (endo). Mabwysiadwyd y cynllun yn dilyn awgrym un o’r gweithwyr Kayleigh Smith, a oedd yn awyddus i siarad am y pwnc a bod yn eiriolwr ar ran pobl eraill yn y sefydliad sy’n dioddef o’r un cyflwr.
Beth yw endometriosis?
Mae endometriosis yn gyflwr poen cronig hirdymor sy’n effeithio ar 1 o bob 10 menyw a’r rhai a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni. Mae hynny’n golygu dros 1.5 miliwn o bobl yn y DU, sy’n bennaf o oedran gweithio.
Gan ei bod yn cymryd tua wyth mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis, mae llawer o bobl sydd ag endometriosis yn dioddef o’r symptomau am flynyddoedd cyn derbyn gofal iechyd priodol. Gall symptomau gynnwys poen pelfig, mislif poenus, poen wrth fynd i’r toiled, gorflinder, anhawster i feichiogi a llawer mwy.
Roedd Kayleigh wedi treulio blynyddoedd lawer yn dioddef heb ddiagnosis, ond cafodd gefnogaeth gan ei rheolwr Nigel Blackwell, pan ddaeth yn amlwg fod symptomau endometriosis yn effeithio ar ei gallu i weithio.
Beth yw’r Cynllun Cyflogwr Endometriosis Gyfeillgar?
Mae’r cynllun Cyflogwr Endometriosis Gyfeillgar yn gweithio i wella cymorth i’r rhai sy’n dioddef o’r cyflwr cronig, hirdymor hwn. Mae’r pwyslais ar roi sylw i endometriosis, tra’n annog cefnogaeth a sgyrsiau am bob math o gyflyrau iechyd mislifol. Mae cymryd rhan yn y cynllun yn helpu sefydliadau i greu gweithle lle mae staff yn teimlo’n gyfforddus i siarad am y cyflwr ac ystyried addasiadau ymarferol all fod o fudd i bobl ag endometriosis.
Yn ClwydAlyn, mae Kayleigh a Nigel wedi ymgymryd â rôl Hyrwyddwyr Ymwybyddiaeth Endometriosis. Mae hyn yn golygu rhoi arweiniad i gydweithwyr ar faterion yn ymwneud ag endo, a gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i gael gwybodaeth a chymorth a’u cyfeirio at wasanaethau eraill.
“Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth a chwalu’r stigma am gyflyrau fel endometriosis. Mae llawer o bobl yn dioddef yn dawel gan eu bod yn teimlo embaras, neu’n credu na fydd neb yn deall. Mae’r cynllun hwn yn helpu i greu gweithleoedd lle gall pobl deimlo y gallan nhw siarad a chael y cymorth mae ei angen arnyn nhw. Mae’n golygu gwneud addasiadau bach fel y gall pobl ddal i wneud eu gwaith a byw eu bywydau, hyd yn oed ar y diwrnodau anodd.”
“Mae endometriosis yn effeithio ar lawer o bobl. Fel cyflogwr, rydyn ni eisiau meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth, a chefnogi’r rhai sy’n cael symptomau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am ClwydAlyn ewch i: Tai ClwydAlyn Gogledd Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am endometriosis a’r cynllun Cyflogwr Endometriosis Gyfeillgar, ewch i wefan Endometriosis UK: Ending endometriosis starts by saying it | Endometriosis UK