Mae cymdeithas dai ClwydAlyn wedi creu partneriaeth â’r contractwr datblygu eiddo lleol DU Construction i ddarparu ardal ddysgu awyr agored newydd ar gyfer ysgol gynradd yn Ynys Môn.
Mae ClwydAlyn, y gymdeithas dai sydd â’i phencadlys yn Sir Ddinbych, ar y cyd â chwmni DU Construction o Gaergybi, wedi adeiladu ardal ddysgu awyr agored newydd sbon ar gyfer disgyblion Ysgol Goronwy Owen, Benllech. Mae’r offer arbenigol wedi creu ardal arbennig lle gall disgyblion archwilio, chwarae a dysgu. Cafodd yr ardal chwarae newydd ei hariannu fel rhan o amcanion gwerth cymdeithasol ClwydAlyn a’i darparu gan DU Construction, gyda’r nod o ysbrydoli plant i archwilio a darganfod, a thanio eu dychymyg a’u chwilfrydedd.
Ysgrifennodd y pennaeth, Dr Elfed Morgan Morris, lythyr twymgalon yn mynegi cymaint roedd yr ysgol yn gwerthfawrogi’r ardal newydd, gan ganmol yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar lesiant a datblygiad y plant.
“Rydych chi wedi rhoi anrheg arbennig i’r plant: amgylchedd sy’n ennyn chwilfrydedd ac yn meithrin cariad tuag at yr awyr agored, amgylchedd a fydd yn siapio eu profiadau dysgu am byth. Mae hon yn waddol anhygoel, a byddwn yn ei thrysori bob amser.”
Mae’r ardal yn cynnwys arwyneb glaswellt ‘pob tywydd’, caban gwyliwr, gwesty trychfilod, gwely plannu mawr, eisteddleoedd awyr agored, bwrdd sialc, îsl awyr agored a llawer mwy. Cafodd ei chynllunio’n ofalus gan ddefnyddio offer diogel a chadarn, a fydd yn gwella cyfleoedd dysgu dychmygus ac ymarferol drwy chwarae.
Hefyd ym mhentref Benllech, bydd Craig y Don, datblygiad gwerth £6.5 miliwn gan ClwydAlyn, yn darparu 17 o gartrefi fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni yng nghanol Ynys Môn. Mae’r cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu gan DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am gartrefi Craig y Don neu i ymgeisio am le, ewch i: Craig y Don, Benllech – Clwydalyn