Mae grŵp ysgrifennu creadigol cyfeillgar a chroesawgar yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau ysgrifennu. Mae’r grŵp ‘merched yn unig’ yn cyfarfod mewn cymuned byw’n annibynnol yng nghanol y Rhyl i ysgrifennu, rhannu a chreu cysylltiadau.
Prif nod grŵp ysgrifennu creadigol merched y Rhyl, yw ysbrydoli’r aelodau i ysgrifennu er pleser! Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn cyfarfod yn wythnosol yng nghynllun byw’n annibynnol Gorwel Newydd, ar West Parade.
Yn ôl y trefnydd Frances, mae’r sesiynau a gynhelir bob bore Gwener am 10am, yn agored i unrhyw ferched lleol sy’n dymuno cymryd rhan, ni waeth faint yw eu hoed, na faint o brofiad sydd ganddynt!
Dywedodd: “Does dim rhaid i chi fod yn awdur da, yr holl bwynt yw dod draw, cael hwyl, ac ymarfer eich ymennydd!”
Bob wythnos mae’r awduron yn cael cyfle i ddarllen eu gwaith, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, cyn ymuno mewn tasg ysgrifennu grŵp, pan fydd Frances yn rhoi ysbrydoliaeth iddynt ar gyfer darn ysgrifennu’r wythnos. Yna maent yn sgwrsio dros baned a bisgeden neu ddwy ac yn gadael gyda theitl a fydd yn ysbrydoli rhagor o waith creadigol cyn y sesiwn nesaf yr wythnos wedyn.
Yn ôl Pat, sydd wedi ymuno â’r grŵp yn ddiweddar, mae pawb yn groesawgar iawn. Dywedodd: “Rydyn ni bob amser yn llwyddo i feddwl am bethau sy’n gwneud i ni wenu!”
Ychwanegodd Cheryl, sy’n mwynhau gwrando ar gyfraniadau’r lleill: “Mae’n ddiddorol sut mae’r dychymyg yn mynd â phawb i gyfeiriadau gwahanol!”
Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn chwilio am aelodau newydd. Mae’r sesiynau i gyd am ddim, ac maent yn dangos y gall creadigrwydd, cysylltiad a chymuned ddechrau gydag un frawddeg yn unig!
I gloi, dywedodd Joan, un o hoelion wyth y grŵp: “Dewch draw i gael diod a gweld beth rydyn ni’n ei wneud. Does dim pwysau i chi ddarllen eich gwaith i’r aelodau eraill, os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny!”
Mae Grŵp Ysgrifennu Creadigol Merched y Rhyl yn cyfarfod yn Gorwel Newydd, 76-82 West Parade, y Rhyl am 10am bob bore Gwener rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth. Mae pawb yn cyfarfod yn ardal y dderbynfa. Rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd, cynhelir y cyfarfodydd yng Nghanolfan Merched y Rhyl ar Stryd y Dŵr.