Yn ddiweddar cafodd Angharad Kellett, Swyddog Gwaith Cyfalaf ClwydAlyn, ei choroni yn ‘Brentis y Flwyddyn – Gweinyddu a Gwasanaeth i Gwsmeriaid’ Llandrillo Menai, yn Seremoni Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru.
Ar ôl cwblhau ei phrentisiaeth yn llwyddiannus gyda Grŵp Llandrillo Menai, ymunodd Angharad â ClwydAlyn. Dewisodd ddilyn gyrfa ym maes tai a chafodd ei thaith a’i chyflawniadau eu hamlygu’n ddiweddar mewn fideo a ryddhawyd gan Grŵp Llandrillo Menai. Yn y fideo, mae Angharad yn esbonio sut gwnaeth y brentisiaeth gynnig sylfaen gadarn ac arwain y ffordd iddi ddilyn gyrfa yn y sector tai cymdeithasol.
Ers iddi ymuno â ClwydAlyn, mae Angharad wedi bod yn ychwanegiad gwych i’r Tîm Eiddo. Mae ei set sgiliau wedi bod yn werthfawr i ddull ClwydAlyn o reoli data, ymgysylltu â phreswylwyr, a chyfathrebu.
Roedd Angharad, a astudiodd gymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 4, yn falch o gael ei chydnabod yn Brentis y Flwyddyn, Gweinyddu Busnes, Manwerthu a Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
“Mae hefyd yn wych gallu ennill arian wrth i chi ddysgu, oherwydd os ydych chi yn yr ysgol, dydych chi ddim yn gwneud hynny.
“Roedd prentisiaeth yn beth gwych i mi ac wrth gwblhau fy mhrentisiaeth fe wnes i ddysgu sgiliau newydd; roedd yn wych gallu dysgu ar fy nghyflymder fy hun a gwneud fy ngwaith fy hun.
“Buaswn i’n argymell prentisiaeth oherwydd yn fy marn i mae’n ffordd wych o ddysgu, yn enwedig os dydych chi ddim yn hoffi bod yn y sector addysg. Mae’n ddewis gwych yn lle ysgol neu goleg.”
I gael rhagor o wybodaeth am swyddi gwag gyda ClwydAlyn, ewch i: Cartref | ClwydAlyn