Mae ClwydAlyn wedi cwblhau’r gwaith o ddatblygu pump o gartrefi newydd yn Rhoslan, Ynys Môn, a ariannwyd gan Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen hon yw cyflymu’r broses o ddarparu cartrefi fforddiadwy, hirdymor, o ansawdd da i deuluoedd ac unigolion y mae angen cartrefi arnynt ledled Cymru.
Mae’r gwaith o ailddatblygu safle Rhoslan, Ynys Môn, gan ClwydAlyn, y contractwr DU Construction, ac mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru, wedi darparu pump o gartrefi am oes y mae angen mawr amdanynt.
Angen Tai Lleol yn Ynys Môn
Yn ddiweddar, croesawyd tri o gynghorwyr Cyngor Sir Ynys Môn i ymweld â’r cartrefi, a godwyd ar safle’r hen Ysgol Brydeinig a adeiladwyd gan yr Arglwydd Stanley o Alderley yn 1848. Roedd cyfle i’r cynghorwyr weld drostynt eu hunain sut bydd y cartrefi newydd yn cefnogi’r gymuned leol a sut bydd y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol, a dderbyniodd hwb ariannol o £55 miliwn yn ddiweddar, yn helpu i fynd i’r afael â’r angen am dai ac yn cyflymu’r broses o ddarparu rhagor o gartrefi diogel a chynnes yng Nghymru.
Wrth i’r angen am dai barhau i gynyddu ledled Gogledd Cymru, mae llawer o deuluoedd yn ardal Ynys Môn yn aros am rywle addas a fforddiadwy i fyw. Mae’r cartrefi hyn yn cyfrannu at ddarparu tai diogel a hirdymor i deuluoedd lleol sydd wedi cael trafferth dod o hyd i ddewisiadau tai rhent fforddiadwy yn eu cymunedau lleol.
Cartrefi am Oes sy’n Fforddiadwy a Chynaliadwy
Dyluniwyd y cartrefi hyn gan ClwydAlyn gyda phwyslais ar gynaliadwyedd; sy’n helpu preswylwyr i leihau eu costau cynnal parhaus.
Mae lefelau uchel o inswleiddio, ynni solar a system wresogi ffynhonnell aer yn helpu i gadw gwres, lleihau’r defnydd o ynni, a gostwng biliau ynni.
“Rydyn ni’n ddiolchgar am gefnogaeth barhaus arian y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol a chydweithrediad Cyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru sydd wedi ein galluogi i ddarparu’r cartrefi hyn lle mae eu hangen fwyaf.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu pump o deuluoedd newydd i’r cartrefi yn fuan iawn, ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.”
Mae’r cynllun yn cynnwys dau dŷ 4 ystafell wely a thri byngalo 2 ystafell wely. Dyluniwyd y cartrefi hyn fel ‘cartrefi am oes’. Mae hyn yn golygu eu bod yn hygyrch ac yn hawdd eu haddasu, petai angen gwneud hynny nawr neu yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, mae cartrefi sy’n cael eu hadeiladu am oes yn golygu bod llai o angen am addasiadau drud neu waith adeiladu yn y dyfodol, felly gall y preswylwyr aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy.
“Mae gan wasanaeth Tai y Cyngor gyfrifoldeb statudol i asesu anghenion tai ac arwain ar weithio mewn partneriaeth i ddarparu tai o ansawdd yn lleol. Mae ein Strategaeth Dai 2022 ‐ 2027 yn gwbl anhepgor wrth i ni weithio’n annibynnol, a gyda phartneriaid allweddol, i barhau i gwrdd ag anghenion ein preswylwyr nawr ac yn y dyfodol.
“Rwy’n falch o weld y bydd teuluoedd lleol yn symud i’w cartrefi newydd yn natblygiad Rhoslan, Caergybi, yn fuan. Adeiladwyd y cartrefi hyn gan gwmni lleol o Gaergybi gan ddod a budd i’r economi leol a’r angen tai lleol”.
I gael rhagor o wybodaeth am y cartrefi yn Rhoslan, Ynys Môn, ewch i: Rhoslan – Clwydalyn