Yn dilyn ymgyrch bosteri ddiweddar a drefnwyd fel rhan o’r grŵp Atal Hunan-laddiad ymhlith Cymunedau sydd wedi’u tanwasanaethu, daeth partneriaid o bob rhan o Sir Ddinbych a’r gymuned at ei gilydd i gefnogi’r artistiaid talentog o’r Rhyl, Freya Rees, 19 a Kenny Bond, 58. Roedd eu gwaith celf yn rhan o arddangosfa ddiddorol iawn o ddarnau gwreiddiol, a oedd yn ceisio annog sgyrsiau am ba mor bwysig yw ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Gan drafod themâu fel salwch meddwl, hunan-laddiad a hunan-niweidio, fe wnaeth yr artistiaid gyfuno eu gwaith pwerus i greu arddangosfa o’r enw ‘Adeiladu Llwybr’, yng Nghanolfan Fedra’i yn y Rhyl ar 16 Mawrth.
Dewisodd y ddau artist rai o’u darnau celf mwyaf pwerus, sy’n adlewyrchu themâu iechyd meddwl, adferiad, a chymorth, yn ogystal â’u profiadau personol.
Roedd darn newydd o waith gan Freya yn cynrychioli’r ymgyrch ‘Adeiladu Llwybr’, ynghyd â’r slogan, ‘pan fydd bywyd yn taflu brics, adeiladwch lwybr’.
Mae’r artist o’r Rhyl, Freya, wedi bod yn creu gwaith celf beiddgar a lliwgar ers sawl blwyddyn, gan gofnodi ei phrofiad o oresgyn digartrefedd a byw gyda salwch cronig. Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan y cyfle i ysbrydoli pobl eraill gyda’i chelf. Mae llawer o’i darnau wedi cael eu comisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’w defnyddio yn eu gwasanaethau plant. Mae gweithiau eraill yn cael eu defnyddio gan CAHMS i hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sy’n wynebu problemau salwch meddwl.
“Roeddwn yn falch iawn o gael y cynnig i weithio ar y darn hwn ar gyfer ymgyrch bosteri Atal Hunan-laddiad y Rhyl. Mae cymorth ar gael a gobeithio bydd yr ymgyrch hon yn helpu mwy o bobl i ddeall ble gallan nhw droi os oes angen cymorth arnynt.”
Mae gwaith celf Kenny yn cofnodi ei broblemau personol gyda salwch meddwl ac yn dangos ei fod wedi wynebu cyfnod tywyll iawn yn ei fywyd, cyn cael cyfnod o fyfyrdod a newid. Mae Kenny yn defnyddio ei iPhone 7 i dynnu pob un o’i weithiau celf, ac esboniodd fod y ffôn wedi bod yn rhan hollbwysig o’i broses greadigol.
“Mae fy ngwaith yn cynrychioli iechyd meddwl mewn rhyw ffordd; galar, cariad, colled, tristwch, iselder.
“Roeddwn wedi cyrraedd pwynt lle roeddwn yn teimlo mor ar goll doeddwn i ddim yn adnabod fy hun; roeddwn wedi rhoi’r gorau i fyw ac yn bodoli yn unig. Ond trwy fy ngwaith celf rwy’n dechrau dod yn fwy hyderus i siarad am hyn, a thrwy wneud hynny rwy’n gobeithio y gallaf helpu rhywun arall sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.”
“Mae’r digwyddiad Adeiladu Llwybr wedi rhoi cyfle i’r gymuned leol ddod ynghyd ac elwa ar greadigrwydd ein hartistiaid. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth a chreu cysylltiadau; mae dechrau sgwrs am iechyd meddwl yn hollbwysig i chwalu stigma a dangos i bobl nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.
“Rydyn ni mor ddiolchgar i Freya a Kenny am fod mor ddewr a rhannu eu gwaith celf a’u teithiau personol. Roedd yn arddangosfa hynod o emosiynol a diddorol.”