Skip to content

Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol Interniaethau â Chymorth – dathliad cenedlaethol o interniaethau â chymorth yn y Deyrnas Unedig! Cafodd y diwrnod ei sefydlu a’i lansio yn 2023 gan ein partner cyflogadwyedd, DFN Project SEARCH.

Cynhelir Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau â Chymorth ar 27 Mawrth bob blwyddyn, a’r nod yw codi ymwybyddiaeth am interniaethau â chymorth a’r interniaid gwych y mae eu profiadau yn y gweithle yn helpu i feithrin hyder, gwella sgiliau a llunio’r dyfodol!

Mae ClwydAlyn yn mwynhau gweithio gyda DFN Project SEARCH ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r cynlluniau interniaethau sy’n cael eu cynnig i’r interniaid! Mae interniaethau â chymorth yn llwybr effeithiol i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth symud i fyd gwaith.

Eleni, cawsom gyfle i sgwrsio gyda rhai o’r interniaid, a chlywed rhagor am eu lleoliadau gwaith, a sut hwyl maent yn ei gael …

A person wearing a blue shirt smiles at the camera

    • Enw: Dylan
    • Oed: 22 oed
    • Yn dod o: Sir y Fflint
    • Nod: Gweithio mewn cegin oherwydd rwyf wedi bod eisiau gwneud hynny ers i mi adael coleg.
    • Lleoliad Presennol: Lleoliad cegin mewn cynllun byw’n annibynnol ClwydAlyn.

     Cwestiynau Cyflym:

    • Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?

    Cyllell, llysiau a chacen

    • Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?

    Paned o goffi

    • Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?

    Plicio, torri, gweini a phobi

    • Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?

    Diwrnod mewn bywyd yn y Gegin gyda Tom Holland

     

    Dewch i ddysgu rhagor am leoliad gwaith Dylan:

    • Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?

    Fe wnes i fwynhau dysgu beth mae’r preswylwyr yn hoffi ei gael i bwdin a chymdeithasu gyda holl staff y gegin a’r preswylwyr

    • Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?

    Rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth dderbyn adborth.

    • Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?

    Pobi oherwydd doeddwn i ddim wedi pobi o’r blaen.

    • Beth ydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod y lleoliad?

    Rwyf mor falch fy mod i’n gwneud rhywbeth rwy’n ei fwynhau.

    • Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?

    Byddwn i’n dweud wrthyn nhw fy mod i wedi wir fwynhau cymryd rhan yn rhaglen.

    • Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch chi eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?

    Rwy’n llawer mwy hyder ers dechrau’r lleoliad a gallaf fynd â’r hyder yma i’r byd real a gwneud mwy drosof fy hun.

A person smiles at the camera

    • Enw: Daniel Day
    • Oed: 27
    • Yn dod o: Yr Wyddgrug
    • Nod: Gwella hyder a chyfarfod pobl newydd
    • Lleoliad Presennol: Porthor mewn ysbyty cymunedol

    Cwestiynau Cyflym:

    • Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?

    Person yn cerdded, biniau, cawell

    • Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?

    Fel arfer bar o siocled

    • Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?

    Gwrando

    • Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?

    Dyddiaduron y Porthor gyda Rowan Atkinson

     

    Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Daniel:

    • Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?

    Rwyf wedi mwynhau cyfarfod pobl newydd a dod i adnabod y staff.

    • Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?

    Cael adborth cadarnhaol rheolaidd gan y staff.

    • Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?

    Rydw i nawr yn gwybod sut i symud cleifion yn ddiogel ac yn gywir.

    • Beth ydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod y lleoliad?

    Rwy’n falch iawn fy mod i’n gallu dilyn trefn ddyddiol a chwblhau tasgau yn eithaf cyflym.

    • Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?

    Byddwn i’n dweud wrthyn nhw faint o gymorth mae staff a’r tiwtor yn ei roi i chi, ac y byddan nhw’n gwneud addasiadau i weithio o’ch cwmpas chi. Mae’n ffordd dda o wella eich hyder os nad ydych chi’n hyderus, oherwydd gallwch chi roi cynnig ar bethau na fyddech chi fel arfer yn eu gwneud o bosibl.

    • Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch chi eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?

    Rwyf wedi synnu fy mod i wedi cael y cyfrifoldeb o gwblhau tasgau’n annibynnol mor fuan yn ystod y lleoliad, ond rwy’n teimlo’n falch am hyn.

A person smiles at the camera

    • Enw: Katie Jane
    • Oed: 29
    • Yn dod o: Mostyn
    • Nod: Gwella fy sgiliau cyflogadwyedd a chael cymorth i ddod o hyd i swydd
    • Lleoliad Presennol: Cymhorthydd gweinyddol mewn meddygfa yn y Fflint

    Cwestiynau Cyflym:

    • Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?
    • Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?

    Bar siocled a the perlysiau.

    • Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?

    Y sgìl orau rwyf wedi’i dysgu hyd yma yw rheoli amser.

    • Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?

    ‘Lovely Laurels’ a byddai Katy Perry yn chwarae fi.

     

    Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Katie:

    • Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?

    Y pethau rwyf wedi mwynhau eu dysgu yn ystod fy lleoliad yw agor dogfennau’r cleifion, llungopïo dogfennau’r cleifion, sganio dogfennau’r cleifion, gwirio dogfennau trydydd parti y cleifion ac argraffu dogfennau’r cleifion.

    • Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?

    Fy mhresenoldeb a’m gallu i gadw amser.

    • Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?

    Agor dogfennau cleifion a’u rhoi yn eu trefn yn ôl y dyddiad.

    • Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod y lleoliad?

    Y peth rwy’n fwyaf balch fy mod wedi’i ddysgu yn ystod y lleoliad yw sut i lungopïo dogfennau cleifion a gwirio dogfennau trydydd parti y cleifion.

    • Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?

    Fy nghyngor i rywun sy’n ystyried interniaeth â chyngor yw siarad gyda’r tîm interniaeth â chyngor HFT os ydych chi eisiau gwneud interniaeth â chymorth.

    • Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?

    Y ffaith fy mod i’n unigolyn sy’n gweithio’n galed iawn.

A person smiles at the camera

    • Enw: Lilly
    • Oed: 19
    • Yn dod o: Mancot
    • Nod: Doeddwn i ddim eisiau mynd i’r coleg ac roeddwn yn teimlo y byddai’r lleoliad yn fy helpu i ddysgu sgiliau newydd a chael tri chyfle i roi cynnig ar leoliadau gwaith gwahanol.
    • Lleoliad Presennol: Cymhorthydd mewn caffi yn y Fflint

    Cwestiynau Cyflym:

    • Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?

    Mwg o goffi, brechdan, padell ffrio gydag wy.

    • Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?

    Siocled.

    • Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?

    Rhyngweithio gyda chwsmeriaid.

    • Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?

    Y Dywysoges a’r Broga a byddai Emma Watson yn chwarae fi.

     

    Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Lilly:

    • Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?

    Dysgu sut i ddefnyddio’r offer gwahanol fel y peiriant barista.

    • Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?

    Cymorth gan fy nhiwtor /mentoriaid swydd a staff y caffi.

    • Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?

    Mynd at bobl ddieithr a siarad yn gyfforddus.

    • Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod eich lleoliad?

    Sut i ddefnyddio’r peiriant barista.

    • Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?

    Mae’n gyfle da na ddylech chi ei golli.

    • Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?

    Rwy’n teimlo’n fwy cyfforddus i ofyn am help.

A person smiles at the camera

      • Enw: Shane
      • Oed: 20
      • Yn dod o: Sir y Fflint
      • Nod: Roeddwn eisiau dysgu sgiliau newydd a chyfarfod pobl newydd a chael profiad gwaith i ddeall yr amgylchedd gwaith.
      • Lleoliad Presennol: Porthor Ysbyty’r GIG

      Cwestiynau Cyflym:

      • Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?

      Bisgedi

      • Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?

      Gwaith tîm

      • Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?

      Y Gyfres ‘House’ a byddai Tom Holland yn chwarae rhan porthor.

       

      Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Shane:

      • Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?

      Dysgu cynifer o sgiliau â phosibl.

      • Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?

      Mae’r staff yn gyfeillgar ac yn gefnogol.

      • Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?

      Siarad yn amlach a chael sgiliau trefnu wrth fod yn gyfrifol am y gwastraff.

      • Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod eich lleoliad?

      Dysgu cynifer o sgiliau ag y gallaf.

      • Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?

      Byddwn i’n dweud wrthyn nhw i gymryd y cyfle ac ymuno, oherwydd byddan nhw nid yn unig yn cael profiad gwaith yn ystod y lleoliadau byddan nhw hefyd yn dysgu sgiliau newydd ac yn cyfarfod pobl newydd sy’n gefnogol ac yn gyfeillgar, ac a allai fod yn ffrindiau yn y dyfodol.

      • Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?

      Fy mod i wedi dod yn fwy hyderus wrth siarad gyda phobl newydd yn hawdd.

A person smiles at the camera

    • Enw: Thomas
    • Oed: 29
    • Yn dod o: Treffynnon
    • Nod: Rwyf eisiau cael gwaith cyflogedig
    • Lleoliad Presennol: Paentio ac addurno gyda chwmni Wall-Lag

    Cwestiynau Cyflym:

    • Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?

    Brwsh paent, car a thŷ

    • Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?

    Rôl selsig Gregg’s

    • Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?

    Siarad gyda mwy o bobl

    • Os byddai eich lleoliad yn fflim, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?

    Tom y Paentiwr, a byddai Chris Hemsworth yn fy chwarae i

     

    Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Thomas:

    • Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?

    Paentio ac addurno a mynd i’r gwaith gyda fy mentoriaid.

    • Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?

    Gweithio gyda’r bobl o Wall Lag.

    • Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?

    Siarad gyda mwy o bobl.

    • Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod eich lleoliad?

    Dysgu sgiliau paentio newydd a gwella fy hyder.

    • Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?

    Ewch amdani!

    • Beth sydd wedi eich synnu amdanoch eich hun ers i chi ddechrau’r rhaglen interniaeth?

    Bod fy hyder wedi gwella, ac rydw i wedi dysgu sgiliau paentio newydd.

    • Enw: Arijus
    • Oed: 18
    • Yn dod o: Sir y Fflint
    • Nod: Roedd angen cymorth arnaf i gael gwaith cyflogedig
    • Lleoliad Presennol: Cymhorthydd domestig mewn ysbyty cymunedol

     Cwestiynau Cyflym:

    • Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?

    Mop, bwced a menig.

    • Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?

    Rhywbeth melys fel toesen neu deisen.

    • Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?

    Rydw i wedi dysgu am y cadachau cod lliw gwahanol sy’n cael eu defnyddio mewn ardaloedd gwahanol.

    • Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?

    Fel Pin mewn Papur, gyda Ryan Reynolds a Rob McElhenny.

     

    Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Arijus:

    • Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?

    Dysgu’r holl sgiliau newydd fel mopio a dysgu am yr holl gadachau cod lliw gwahanol/mopiau

    • Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?

    Cyfarfod y staff, y rheolwr a’r goruchwylwyr. A chael fy mentor swydd gyda mi.

    • Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?

    Mopio lloriau.

    • Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod eich lleoliad?

    Cyfarfod y staff a mopio oherwydd doeddwn i ddim wedi gwneud hyn o’r blaen.

    • Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chyngor?

    Byddwch yn ei fwynhau – mae’r staff yn gyfeillgar ac yn garedig.

    • Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?

    Rwyf wedi synnu pa mor gyflym wnes i ddysgu sgiliau newydd a pha mor gyflym wnes i ymgartrefu gyda’r tîm.

Diolch enfawr i bob intern sydd wedi rhannu’r sylwadau gwerthfawr hyn am eu profiadau hyd yma! Rydym yn dymuno’n dda iddynt yn eu lleoliadau!

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am NSID, naill ai o safbwynt intern neu weithiwr proffesiynol, ewch i: National Supported Internship Day | DFN Project SEARCH

Neu gallwch lawrlwytho pecyn gwybodaeth yma: Intern Document

#NSID2026