Mae Kieran Jones, Swyddog Cymorth Digartrefedd, yn ysbrydoli preswylwyr ifanc gyda’i angerdd am ffitrwydd a hunan-ofal.
Dywed Keiran ei bod yn fraint cefnogi pobl ifanc ar eu taith ac mae’n credu bod gan bawb y potensial i symud ymlaen ac adeiladu dyfodol da, os oes ganddynt y meddylfryd, y cymorth a’r cyfleoedd cywir.
Cawsom gyfle i gael sgwrs bellach gyda Kieran, sy’n gweithio yn Llys Emlyn Williams, Treffynnon, cynllun byw â chymorth ClwydAlyn i bobl ifanc 16-24 oed …
C: Beth wnaeth eich denu i weithio ym maes byw â chymorth?
Kieran: Roeddwn eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl, yn enwedig ar yr adeg pan maen nhw’n ceisio ailadeiladu a symud ymlaen. Rwyf wastad wedi credu mai fy mhwrpas mewn bywyd yw helpu pobl eraill, ac mae helpu pobl ifanc i ddod yn annibynnol, yn hyderus, a chael sefydlogrwydd yn eu bywyd, yn rhywbeth sy’n wirioneddol werth chweil.
C: Sut mae eich profiadau personol wedi dylanwadu ar eich gwaith?
Kieran: Cefais fagwraeth anodd felly rwy’n gallu uniaethu â’r bobl ifanc rwy’n eu helpu. Mae fy mhrofiad personol wedi rhoi lefel o ddealltwriaeth ac empathi i mi gan olygu fy mod i’n gallu ffurfio cysylltiad gyda nhw mewn ffordd ddiffuant. Rwy’n ceisio arwain drwy esiampl a dangos bod newid cadarnhaol yn bosibl, ni waeth beth yw eich man cychwyn.
C: Sut mae eich diddordeb mewn iechyd, ffitrwydd a maeth yn dylanwadu ar eich gwaith?
Kieran: Mae iechyd yn bwysig i mi, yn enwedig gan fy mod i wedi wynebu heriau personol o ran iechyd y coluddion ar ôl tyfu i fyny ar ddeiet o fwyd wedi’i brosesu. Mae newid fy arferion bwyta a’r ffordd rwy’n gofalu amdanaf fy hun wedi cael effaith fawr iawn ar fy llesiant, ac rwy’n ceisio trosglwyddo hyn i’r preswylwyr. Rwyf wedi helpu’r preswylwyr i greu cynlluniau prydau syml sy’n addas i’w cyllideb, a’u helpu i ddeall nad yw bwyta’n dda yn gorfod bod yn ddrud nac yn gymhleth.
C: Soniwch am y mentrau ffitrwydd a llesiant rydych chi wedi’u cyflwyno.
Kieran: Rwyf wedi gweithio gyda’r preswylwyr i greu cynlluniau ymarfer corff y gallan nhw ei wneud heb unrhyw offer, yn enwedig os nad yw mynd i’r gampfa yn opsiwn iddyn nhw neu mae’n rhy ddrud. Mae hyn yn cynnwys pethau fel cynlluniau ymarfer corff yn y cartref a mynd allan am dro.
Rwyf hefyd wedi bod yn annog preswylwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a llesiant fel mynd i weithdai, dysgu sgiliau newydd neu ddatblygu hobis. Er enghraifft, rwyf wedi helpu un preswyliwr i bobi ac wedi ei hannog i fynd ymlaen â’r peth.
Rwyf hefyd wedi annog gweithgareddau creadigol, fel paentio modelau Warhammer, sy’n gallu helpu pobl i ganolbwyntio a gwella eu llesiant meddyliol.
Yn ogystal â hyn, rwyf wedi helpu preswylwyr i ystyried gweithgareddau fel bocsio a Muay Thai. Mae’r gweithgareddau hyn wedi fy helpu yn bersonol i fagu hyder, strwythur, a hunan-ddisgyblaeth, ac maen nhw wedi cael effaith gadarnhaol ar fy mywyd. Trwy rannu’r profiadau hyn, rwy’n gobeithio ysbrydoli’r preswylwyr i ddod o hyd i weithgareddau sy’n rhoi teimlad o bwrpas a thwf personol iddyn nhw.
Mae’r camau bach hyn wedi helpu’r preswylwyr i ddod yn fwy hyderus, sefydlu trefn ddyddiol, a chael teimlad o bwrpas.
C: Sut rydych chi’n annog y preswylwyr i gredu ynddynt eu hunain?
Kieran: Trwy feithrin ymddiriedaeth a dangos iddyn nhw nad oes yn rhaid i gynnydd fod yn berffaith. Rwy’n torri pethau i lawr yn gamau bach, hawdd eu rheoli, ac yn dathlu’r llwyddiannau ar hyd y ffordd. Rwyf hefyd yn ceisio arwain drwy esiampl a dangos cysondeb o ran fy arferion personol, i ddangos beth sy’n bosibl.
C: Ydych chi’n credu bod llesiant corfforol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl?
Kieran: Yn bendant. Rwyf wedi dod yn fwy disgybledig a chyson gyda fy arferion fy hun ac wedi gweld o brofiad sut gall gwella iechyd corfforol drwy well maeth, ymarfer corff, ac arferion, gael effaith anferth ar lesiant meddyliol. Mae’n gallu gwella hwyliau, lleihau straen, a meithrin hyder. Gall hyd yn oed newidiadau bach iawn wneud gwahaniaeth sylweddol.
Rwy’n gwneud ymdrech ymwybodol i gyflawni’r pethau rwy’n eu hyrwyddo, oherwydd rwy’n creu fod pobl yn fwy tebygol o wrando pan maen nhw’n eich gweld chi’n byw fel hyn hefyd.
C: Beth sy’n eich ysgogi chi?
Kieran: Mae gweld cynnydd y preswylwyr yn fy ysgogi. Mae hyd yn oed camau bach ymlaen yn bwysig. Rwy’n ceisio canolbwyntio ar fy arferion a’m nodau fy hun, sy’n fy helpu i gael meddylfryd cadarnhaol.
C: Beth yw eich gobeithion am ddyfodol cymorth digartrefedd i bobl ifanc?
Kieran: Yn fy marn i, byddai’n dda gweld mwy o bwyslais ar faeth, iechyd, a llesiant yn y gwasanaethau cymorth. Mae deiet ac ymarfer corff yn chwarae rhan enfawr mewn iechyd corfforol a meddyliol a byddai rhoi mwy o addysg a chymorth i bobl ifanc yn y meysydd hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth parhaol ochr yn ochr â’r cymorth maen nhw’n ei dderbyn yn barod.
C: Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sydd newydd gyrraedd Llys Emlyn Williams?
Kieran: Gwnewch bethau un cam ar y tro. Does dim rhaid i chi ddelio gyda phopeth ar unwaith. Byddwch yn agored i gymorth, rhowch gynnig ar bethau newydd, a chanolbwyntiwch ar newidiadau bach, cadarnhaol, maen nhw i gyd yn cyfrif!