Mae cydweithwyr y gymdeithas dai ClwydAlyn o Lanelwy wedi dewis yr elusen iechyd meddwl i ddynion, ANDYSMANCLUB, fel Elusen y Flwyddyn eleni, yn dilyn pleidlais ymhlith yr holl aelodau staff.
Cafodd yr elusen ei dewis o restr fer o achosion da a enwebwyd gan gydweithwyr, a daeth ANDYSMANCLUB i’r brig.
Bydd Pwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol ClwydAlyn (SAS) nawr yn trefnu calendr llawn o weithgareddau codi arian drwy gydol y flwyddyn, a fydd yn cynnwys twrnamaint pêl-droed, cystadleuaeth ddartiau, diwrnod golff elusennol, cwisiau, digwyddiadau noddedig a llawer mwy – er mwyn dod â chydweithwyr a’r gymuned leol ynghyd, a chodi ymwybyddiaeth ac arian hollbwysig i’r elusen.
Mae ANDYSMANCLUB yn elusen atal hunanladdiad yn y Deyrnas Unedig ac mae’n darparu grwpiau cymorth gan gyfoedion yn rhad ac am ddim i ddynion 18 oed a throsodd. Sefydlwyd yr elusen yn 2016 i roi diwedd ar y stigma ynghylch iechyd dynion ac mae’n annog dynion i siarad yn agored drwy sgwrsio a chreu cysylltiadau. Slogan yr elusen yw “Mae’n iawn i siarad”, ac mae’n cynnig cymorth i ddynion mewn amgylchedd cefnogol a diogel, heb unrhyw feirniadaeth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:
“Rydyn ni wedi trefnu rhaglen wych o fentrau codi arian, gan ddechrau gyda’n twrnamaint pêl-droed elusennol yng nghlwb pêl-droed Bae Colwyn, ddydd Sul, 26 Gorffennaf. Os hoffai unrhyw dimau lleol gymryd rhan, mae croeso iddyn nhw gysylltu â ni drwy e-bostio sportsandsocial@clwydalyn.co.uk i gael rhagor o wybodaeth!
“Ein nod yw codi cymaint o arian â phosibl i ANDYSMANCLUB, gan godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael yn lleol ar yr un pryd.”
“Mae ANDYSMANCLUB yn sefydliad codi arian yn bennaf, a’n nod yw cael gwared ar y stigma ynghylch iechyd meddwl dynion a gwneud yn siŵr na fydd unrhyw ddyn yn teimlo’n unig wrth ddelio â’i broblemau. Ond, er bod codi arian yn hollbwysig i gynnal ein gwaith, yr hyn sy’n creu newid mewn gwirionedd yw’r sgyrsiau, bod yn weledol, ac effaith donnog hyn o ran codi ymwybyddiaeth."
I gysylltu ag ANDYSMANCLUB e-bostiwch: info@andysmanclub.co.uk
Neu i ddod o hyd i grŵp yn eich ardal, ewch i: Find A Support Group – ANDYSMANCLUB
Ar hyn o bryd, mae grwpiau’n cyfarfod yn lleol yn yr Wyddgrug, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam am 7pm bob nos Lun, heblaw am wyliau banc.
Bydd Pwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol ClwydAlyn yn rhannu gwybodaeth a manylion digwyddiadau codi arian pan fyddant yn codi dros y misoedd nesaf, wrth i’r aelodau weithio gyda’i gilydd i godi arian i ANDYSMANCLUB a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol er budd iechyd meddwl.