Mae Wendy Jones, gweithiwr gofal proffesiynol ac ymroddgar, wedi derbyn gwobr gwasanaeth hir arbennig gan ei chyflogwr ClwydAlyn i gydnabod dros dri degawd o waith gwych yn Llys y Waun, cartref gofal dementia preswyl yn y Waun, ger Wrecsam.
I lawer o bobl sy’n gweithio yn y sector gofal, mae eu rôl yn golygu llawer mwy na swydd; mae wir yn alwedigaeth. Mae hyn yn sicr yn wir yn achos Wendy Jones, 67 oed, o Riwabon, sydd wedi rhoi 34 mlynedd o wasanaeth ymroddedig i ofalu am breswylwyr yng nghartref gofal Llys y Waun.
Mae Wendy yn gweithio yn Llys y Waun, cartref gofal arbenigol i breswylwyr oedrannus a phobl sy’n byw gyda dementia. Y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn yw rheolwr a pherchennog Llys y Waun, sy’n gartref i 66 o oedolion oedrannus y mae angen gofal dementia neu ofal preswyl arnynt. Diolch i’w charedigrwydd a’i hymroddiad i’w swydd fel Uwch Ymarferydd Gofal Nos, mae Wendy yn chwarae rhan hanfodol i greu amgylchedd diogel, cysurus a chysurol yn ystod yr oriau pan mae presywlwr yn aml yn teimlo’n fwyaf pryderus.
Cafodd Wendy ei chydnabod yn ystod Diwrnod Cydnabyddiaeth Llys y Waun, a hynny nid yn unig am fod yn un o’r cydweithwyr sydd wedi gwasanaethu ClwydAlyn am y cyfnod hwyaf, ond hefyd am ei gwasanaeth rhagorol sy’n amlygu ei natur dosturiol a’i phroffesiynoldeb, yn enwedig wrth sicrhau bod pob preswyliwr yn derbyn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a’i anghenion personol.
I gael rhagor o wybodaeth am Llys y Waun, ewch i: Llys y Waun – Clwydalyn