Skip to content

I nodi Sul y Cofio ar 11 Tachwedd, mae rhai o breswylwyr a staff Llys y Waun wedi bod yn gweithio’n galed i greu ‘rhaeadr’ o flodau pabi hardd. Mae’r atyniad trawiadol a wnaed o law i’w weld yn goferu o falconi’r cartref i’r llawr gan greu teyrnged weledol arbennig i’r cyn-filwyr, gan gynnwys rhai sydd bellach yn byw yn y cartref ger Wrecsam.  

Mae staff a phreswylwyr Llys y Waun, cartref gofal arbenigol i 66 o breswylwyr oedrannas a phobl sy’n byw gyda dementia, wedi treulio misoedd yn creu’r arddangosfa drawiadol o flodau pabi, i anrhydeddu gwasanaeth cyn-filwyr a phersonél milwrol ledled y byd, ar Sul y Cofio 2026.

Jane Humphreys, y rheolwr, gafodd y syniad i greu’r arddangosfa weledol, a hynny er mwyn dod â’r gymuned ynghyd a dangos parch i gyn-filwyr lleol, gan gynnwys rhai o breswylwyr Llys y Waun.

Cafodd cannoedd o flodau pabi eu creu a’u casglu ynghyd i greu’r arddangosfa wych sydd wedi bod yn denu sylw pawb yn y gymuned. Mae rhai ohonynt wedi’u creu o boteli plastig wedi’u hailgylchu a baentiwyd yn goch, a chafodd eraill eu crosio a’u gwau –  mae’r holl waith caled wedi bod yn ymdrech ar y cyd gan y staff a’r preswylwyr.

Mae’r deyrnged bwerus hon yn dangos pa mor bwysig yw gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, rhywbeth sy’n bwysig iawn i gydweithwyr yn Llys y Waun.

“Mae Sul y Cofio yn golygu llawer iawn i breswylwyr a chydweithwyr Llys y Waun. Roeddem am greu teyrnged sy’n adlewyrchu ein parch a diolchgarwch i’r rhai sydd wedi gwasanaethu.
“Rydyn ni wedi gweithio fel tîm. Mae ein Cydlynydd Gweithgareddau Nicola wedi bod yn helpu’r preswylwyr i baentio. Mae Wendy, Tracy a finnau wedi bod yn gwau blodau pabi ac mae Kathy, un o geidwaid y cartref wedi gweithio gyda myfyrwyr o’r coleg lleol i osod y blodau ar y rhwydi.
“Rydyn ni wedi cael adborth gwych gan bobl yn y gymuned leol. Mae pawb wedi dod at ei gilydd ac wedi gweithio’n eithriadol o galed; rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi creu arddangosfa mor hardd, sydd wedi dod â phawb ynghyd.”
Jane Humphreys
rheolwr

Dywedodd y preswyliwr Helen Roberts: “Rydyn ni wedi cael sylwadau gan bobl sy’n pasio heibio, ac mae rhai pobl hyd yn oed wedi aros i dynnu lluniau. Mae’r holl arddangosfa yn edrych yn hyfryd.”

Dywedodd George Nicols, sy’n gyn-aelod o’r lluoedd arfog: “Mae’r arddangosfa blodau pabi yn wych, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan a helpu i’w chreu.”

Dywedodd y tîm nyrsus ardal sy’n ymweld yn rheolaidd â Llys y Waun: “Mae’r arddangosfa blodau pabi yn harddu’r adeilad, yn creu awyrgylch croesawgar a meddylgar. Mae’n braf iawn gweld faint o ofal a manylder sydd yn y darn – rhywbeth sy’n adlewyrchu Llys y Waun i’r dim; mae’r cartref yn lle cartrefol ac arbennig i’r staff, preswylwyr a’r gymuned o nyrsus sy’n dod yma bob dydd. Da iawn chi am greu hyn. Mae’r blodau yn sicr wedi gwneud argraff fawr.”

Os hoffech chi weld teyrnged arbennig y cartref i’r Lluoedd Arfog drostoch chi eich hun, ewch i Llys y Waun, Maes y Waun, Y Waun, Wrecsam, LL14 5ND.

I gael rhagor o wybodaeth am fyw neu weithio yn Llys y Waun, ewch  i: Llys y Waun – Clwydalyn