Skip to content
17 Cartrefi
Craig y Don, Benllech, Ynys Môn
Ar y gweill

Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gwanwyn 2027

Bydd y datblygiad hwn, sy’n werth £6.5 miliwn, yn darparu 17 o gartrefi newydd fforddiadwy i Benllech. Yr adeiladwyr yw DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cymysgedd o gartrefi yn cynwys tai dwy a phedair ystafell wely. Mae’r holl gartrefi yn cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes ac maent wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd wrth i anghenion y preswylwyr newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
  • Cyfleusterau gwefru ceir trydan
  • ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
  • Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 17  o gartrefi ar y safle

  • 6 x tŷ 2 ystafell wely
  • 5 x tŷ 3 ystafell wely
  • 2 x tŷ 4 ystafell wely
  • 1 x byngalo 3 ystafell wely
  • 2 x fyngalo 2 ystafell wely, anabl
  • 1 x byngalo 3 ystafell wely, anabl

 

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.
Craig y Don, Benllech

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw ym Craig y Don, Benllech, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Ynys Môn. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan