Mae preswylwyr ar ben eu digon wrth symud i mewn i Neuadd Maldwyn yn y Trallwng; cynllun byw’n annibynnol i bobl dros 60 oed o’r gymuned leol.
Mae Neuadd Maldwyn, sy’n eiddo i’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn, yn gynllun byw’n annibynnol newydd sy’n darparu cartrefi diogel a chynnes o ansawdd uchel i bobl oedrannus yn ardal y Trallwng.
Dechreuodd y preswylwyr cyntaf symud i mewn i’w cartrefi ddydd Llun, 14 Ebrill. Bydd y fflatiau newydd yn cynnig amgylchedd cefnogol i’r preswylwyr, a’r cyfle i fyw ochr yn ochr â phobl o’r un anian a chymdeithasu mewn lleoliad cymunedol. Yn ogystal â’r 66 o fflatiau modern un a dwy ystafell wely, mae’r cynllun yn cynnwys bwyty mawr, ystafell amlweithgareddau, gerddi wedi’u tirlunio, lolfa, ystafell golchi dillad, storfa bygis, ystafell ymolchi â chymorth ar wahân, a phob math o ardaloedd cyffredin eraill y gall y preswylwyr eu defnyddio a’u mwynhau.
Beth yw Byw’n Annibynnol?
Mae byw’n annibynnol yn golygu helpu pobl i fwy’n well ar eu telerau eu hunain, yn eu cartref eu hunain, gyda’r cyfle i dderbyn rhywfaint o gymorth ychwanegol yn ôl yr angen. Mae Neuadd Maldwyn yn cynnwys 66 o fflatiau hunangynhwysol sydd wedi’u dylunio i fod yn gysurus, yn ddiogel ac yn hygyrch.
Gall pob preswyliwr ddewis cael cinio poeth maethlon yn y bwyty bob dydd os yw’n dymuno. Mae staff ar gael i gadw’r cynllun yn ddiogel ac yn lân, a gall y preswylwyr ddefnyddio llawer o’r ardaloedd cyffredin yn Neuadd Maldwyn naill ai ar eu pen eu hunain neu fel rhan o weithgareddau grŵp neu ddigwyddiadau mwy.
Mae byw yn Neuadd Maldwyn yn galluogi preswylwyr i fyw’n annibynnol, tra’n gwybod bod cymorth ar gael wrth law, petai ei angen.
Sut mae Preswylwyr yn teimlo wrth symud i Neuadd Maldwyn?
Roedd Jenny yn llawn cyffro wrth symud i mewn i’r fflatiau newydd.
"Rwyf wrth fy modd â’r fflat, mae’n berffaith a’r hyn rwy’n ei hoffi orau yw’r bobl hyfryd a’r teimlad cartrefol sydd yma yn Neuadd Maldwyn. Dyma’r penderfyniad gorau i mi ei wneud.”
Symudodd Sharon i Neuadd Maldwyn yn ddiweddar hefyd.
“Pan rwy’n cau’r drws ac yn edrych allan drwy’r drysau patio, rwy’n gwybod na fydd angen i mi symud byth eto. Dyma fy nghartref.”
“Mae ychydig o fflatiau yn dal i fod ar gael i’w rhentu yma yn y Trallwng, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu mwy o breswylwyr newydd yn ystod misoedd Ebrill a Mai.”
“Mae Neuadd Maldwyn yn un enghraifft o’r ffordd rydym yn cefnogi pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth i fyw ac, fel y dywed y preswyliwr newydd Jenny, i aros yn annibynnol, gyda chymorth hyblyg – dim gormod na rhy ychydig, ond digon. Rwyf yn falch dros ben bod y gymuned hon bellach wedi’i sefydlu, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gyflawni hyn.”
“Mae’r gwaith o drawsnewid yr hen adeilad rhestredig Gradd II wedi derbyn cymorth drwy ein Cronfa Gofal Integredig a rhaglenni cyfalaf Grant Tai Cymdeithasol ac mae hyn yn dangos beth gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd ac yn rhannu gweledigaeth.”
Rhoddwyd blaenoriaeth ar gyfer y cartrefi i breswylwyr 60 oed a throsodd o ardal Powys sydd ag angen gofal neu gymorth wedi’i asesu. Darperir y gwasanaethau rheoli tai a gwasanaethau atodol gan ClwydAlyn, a Chyngor Sir Powys sy’n gyfrifol am ddarparu gofal cartref ar y safle.
Adeiladwyd y fflatiau un a dwy ystafell wely yng nghanol y Trallwng gan Anwyl Partnerships ar ran ClwydAlyn, ynghyd â Chyngor Sir Powys, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Bwrdd Addysgu Iechyd Powys.
Gall darpar breswylwyr ddal i wneud cais i fyw yn y cynllun gan fod rhai fflatiau un a dwy ystafell wely ar gael i’w rhentu.
I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Maldwyn, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn/ neu i fynegi eich diddordeb yn y cynllun, ffoniwch 0800 183 5757 neu anfonwch e-bost: help@clwydalyn.co.uk














