Yn ddiweddar, cafodd preswylwyr Hafan Gwydir, cynllun byw’n annibynnol yn Llanrwst, gyfle i fwynhau prynhawn arbennig iawn i groesawu’r gwanwyn gyda cherddoriaeth fyw a the prynhawn.
Daeth deuawd cerddorol lleol draw i Hafan Gwydir i ddiddanu’r preswylwyr a chyflwyno rhaglen ddifyr a chofiadwy o ddarnau clasurol Cymreig. Mae’r cerddorion dawnus, meddyg teulu a chiropodydd lleol wedi ymddeol, yn chwarae’r soddgrwth a’r clarinet, ac fe wnaeth eu perfformiad greu awyrgylch braf i breswylwyr y cynllun byw’n annibynnol i bobl dros 60 oed yn Llanrwst.
Yn dilyn y cyngerdd, roedd cyfle i bawb fwynhau te prynhawn blasus iawn wedi’i baratoi gan staff arlwyo Hafan Gwydir. Roedd y wledd o frechdanau ffres, teisennau, te a lluniaeth ysgafn yn ffordd wych o gloi prynhawn arbennig o ddiwylliant a chymuned.
Daeth dros hanner y preswylwyr i’r cyngerdd, sef y digwyddiad cyntaf yn rhaglen weithgareddau’r gwanwyn yn Hafan Gwydir.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn rhan bwysig o fywyd yma yn Hafan Gwydir, gan roi cyfle i’n preswylwyr gymdeithasu, ymlacio, a dathlu. Diolch yn fawr i’r deuawd cerddorol gwych am yr adloniant rhagorol. Ac wrth gwrs, diolch i’n tîm arlwyo am baratoi bwyd blasus iawn!”
Roedd llwyddiant cyngerdd y gwanwyn yn dangos pa mor bwysig yw rhoi cyfle i breswylwyr Hafan Gwydir fwynhau, ac yn enghraifft o’r gwaith paratoi gofalus sy’n digwydd yn y cefndir i drefnu gweithgareddau o’r fath.
I gael rhagor o fanylion am fywyd yn Hafan Gwydir, ewch i: Hafan Gwydir, Llanrwst – Clwydalyn