Mae preswylwyr wedi dechrau ymgartrefu yn y datblygiad o 56 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni ym Mynydd Isa, Sir y Fflint.
Mae ClwydAlyn wedi cydweithio gyda’r datblygwr Castle Green Partnerships, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru, i adeiladu 56 o gartrefi newydd am oes, y mae galw mawr amdanynt yn ardal Mynydd Isa.
Datblygiad Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa
Dechreuodd y gwaith ar ddatblygiad Ffordd yr Wyddgrug ym mis Awst 2023 ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn yr hydref 2025. Mae’r cartrefi un, dwy a thair ystafell wely yn cynnwys byngalos, fflatiau, tai pâr a thai ar wahân yn ogystal ag un byngalo sydd wedi’i addasu.
Mae’r holl gartrefi yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru, a gellir cyflwyno gwneud cais i fyw yno drwy Gyngor Sir y Fflint.
“Mae popeth yn llawer mwy hygyrch. Rydyn ni’n symud yma er mwyn gwneud bywyd yn haws i’n mab anabl, wyth oed.
“Mae byw mewn byngalo yn golygu na fydd angen poeni am ei gario i fyny’r grisiau a bydd hyn yn cael effaith fawr; bydd popeth yn llawer gwell i bawb.
“Rydyn ni wedi symud o lety rhent preifat yn yr Wyddgrug ac roedden ni ar y rhestr aros am dros 3 blynedd. Mae’n rhyddhad mawr cael symud yma.”
Mae Julianne Haycock, ei gŵr a’u dau blentyn, wedi symud i’r datblygiad hefyd.
Mewn ymdrech i leihau tlodi tanwydd, mae pob cartref yn natblygiad Mynydd Isa yn cynnwys y nodweddion canlynol:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli trydan solar
- Lleoliad sy’n manteisio i’r eithaf ar wres yr haul a golau naturiol
- Cyfleusterau gwefru car trydan
Bydd y cartrefi hyn yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd drwy arbed ynni gwerthfawr a helpu preswylwyr i arbed arian yn y tymor hir hefyd.
Yn ogystal â hyn, adeiladwyd pob cartref gan ddefnyddio fframiau pren manwl-gywir o ffynonellau cynaliadwy. Mae’r fframiau hyn yn golygu bod y broses adeiladu yn gyflym ac yn ddibynadwy
“Mae galw mawr am gartrefi o’r fath yn yr ardal, ac roedd yn bleser croesawu’r preswylwyr newydd yr wythnos yma. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi symud i’w cartrefi newydd!”
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: https://www.clwydalyn.co.uk/cy/our-developments/


