Mae preswylwyr stad dai yn y Fflint wedi ymuno â darparwr tai cymdeithasol lleol a Cadwch Gymru’n Daclus i fynd i’r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon.
A successful community clean-up is being celebrated by residents at Halkyn Road Estate in Flint. Arranged by social housing organisation, ClwydAlyn, the clean-up was carried out by a large group of volunteers including staff and local residents, who were keen to create a sense of community and pride in the area.
The estate had increasingly struggled with illegal fly-tipping and littering, prompting ClwydAlyn to step in and act.
Mae trigolion Stad Ffordd Helygain yn y Fflint yn dathlu llwyddiant digwyddiad arbennig i gasglu sbwriel. Trefnwyd y digwyddiad gan y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn a daeth criw mawr o wirfoddolwyr, yn cynnwys staff a phreswylwyr lleol, at ei gilydd i geisio creu teimlad o gymuned a falchder yn yr ardal.
Roedd tipio anghyfreithlon a sbwriel yn achosi problemau ar y stad a phenderfynodd ClwydAlyn gymryd camau i roi sylw i hyn.
“Darparwyd tri sgip mawr ac roedd y tri yn llawn cyn pen awr! Hoffem ddiolch i Gyngor Sir y Fflint a chwmni MD Specialist Cleaning, a wnaeth helpu i gael gwared ar unrhyw wastraff nad oedd yn ffitio yn y sgipiau. Diolch hefyd i bwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol (SAS) ClwydAlyn am drefnu bod aelodau staff yn gwirfoddoli i helpu gyda’r prosiect.
“Daeth y digwyddiad â phobl o bob oed at ei gilydd, ac roedd pawb yn awyddus i wneud gwahaniaeth.”
Cliriwyd sbwriel, tacluswyd mannau gwyrdd a phenodwyd tîm newydd o ‘Arwyr Casglu Sbwriel’ a fydd yn gweithio gyda Cadwch
Gymru’n Daclus i gadw’r ardal yn dwt.
Daeth criw da o blant lleol draw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth casglu sbwriel ac roeddent yn llawn brwdfrydedd wrth dacluso’r stad a’i gwneud yn lle croesawgar.
I wobrwyo’r gymuned leol am yr holl ymdrech, cynhaliwyd Diwrnod Hwyl i’r Preswylwyr, ynghyd â helfa drysor i aelodau ifanc y gymuned. Bu deietegydd yn cynnal sesiwn ‘Bwyta’n Ddoeth i Gynilo’n Well’ ar gyfer yr oedolion, a rhoddwyd cyngor ar goginio a chreu prydau iach ar gyllideb; derbyniodd pawb becyn arbennig yn cynnwys ryseitiau a chynhwysion i goginio pryd i’r teulu.
Mae ClwydAlyn yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn a rhai tebyg yn y dyfodol yn meithrin mwy o deimlad o gymuned ac yn helpu’r preswylwyr i adeiladu ar y llwyddiannau hyn yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth am ClwydAlyn ewch i: http://www.clwydalyn.co.uk/cy/

