Skip to content

Yn dilyn ymgyrch bosteri ddiweddar a drefnwyd fel rhan o’r grŵp Atal Hunan-laddiad ymhlith Cymunedau sydd wedi’u tanwasanaethu, daeth partneriaid o bob rhan o Sir Ddinbych a’r gymuned at ei gilydd i gefnogi’r artistiaid talentog o’r Rhyl, Freya Rees, 19 a Kenny Bond, 58. Roedd eu gwaith celf yn rhan o arddangosfa ddiddorol iawn o ddarnau gwreiddiol, a oedd yn ceisio annog sgyrsiau am ba mor bwysig yw ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Gan drafod themâu fel salwch meddwl, hunan-laddiad a hunan-niweidio, fe wnaeth yr artistiaid gyfuno eu gwaith pwerus i greu arddangosfa o’r enw ‘Adeiladu Llwybr’, yng Nghanolfan Fedra’i yn y Rhyl ar 16 Mawrth.

Dewisodd y ddau artist rai o’u darnau celf mwyaf pwerus, sy’n adlewyrchu themâu iechyd meddwl, adferiad, a chymorth, yn ogystal â’u profiadau personol.

Roedd darn newydd o waith gan Freya yn cynrychioli’r ymgyrch ‘Adeiladu Llwybr’, ynghyd â’r slogan, ‘pan fydd bywyd yn taflu brics, adeiladwch lwybr’.

Mae’r artist o’r Rhyl, Freya, wedi bod yn creu gwaith celf beiddgar a lliwgar ers sawl blwyddyn, gan gofnodi ei phrofiad o oresgyn digartrefedd a byw gyda salwch cronig. Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan y cyfle i ysbrydoli pobl eraill gyda’i chelf. Mae llawer o’i darnau wedi cael eu comisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’w defnyddio yn eu gwasanaethau plant. Mae gweithiau eraill yn cael eu defnyddio gan CAHMS i hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sy’n wynebu problemau salwch meddwl.

“Os gall fy ngwaith celf wneud i rywun deimlo’n llai unig, yna rwy’n hapus. Mae fy nghelf yn portreadu gobaith ac optimistiaeth. Mae’n adlewyrchu rhai o’r anawsterau rwyf wedi dod ar eu traws ar fy nhaith bersonol, ac yn dangos y gall pethau newid er gwell.
“Roeddwn yn falch iawn o gael y cynnig i weithio ar y darn hwn ar gyfer ymgyrch bosteri Atal Hunan-laddiad y Rhyl. Mae cymorth ar gael a gobeithio bydd yr ymgyrch hon yn helpu mwy o bobl i ddeall ble gallan nhw droi os oes angen cymorth arnynt.”

Freya Rees
ClwydAlyn Resident and artist

Mae gwaith celf Kenny yn cofnodi ei broblemau personol gyda salwch meddwl ac yn dangos ei fod wedi wynebu cyfnod tywyll iawn yn ei fywyd, cyn cael cyfnod o fyfyrdod a newid. Mae Kenny yn defnyddio ei iPhone 7 i dynnu pob un o’i weithiau celf, ac esboniodd fod y ffôn wedi bod yn rhan hollbwysig o’i broses greadigol.

“Dechreuodd y cyfan fel hobi i gadw fy hun yn brysur, ond mae wedi dod yn rhywbeth sydd wedi fy helpu i ymdopi. Yna, fe wnes i feddwl, os ydw i’n gallu uniaethu â’r delweddau hyn, yna efallai y gall pobl eraill wneud hynny hefyd.
“Mae fy ngwaith yn cynrychioli iechyd meddwl mewn rhyw ffordd; galar, cariad, colled, tristwch, iselder.
“Roeddwn wedi cyrraedd pwynt lle roeddwn yn teimlo mor ar goll doeddwn i ddim yn adnabod fy hun; roeddwn wedi rhoi’r gorau i fyw ac yn bodoli yn unig. Ond trwy fy ngwaith celf rwy’n dechrau dod yn fwy hyderus i siarad am hyn, a thrwy wneud hynny rwy’n gobeithio y gallaf helpu rhywun arall sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.”
Kenny Bond
iCAN Service User
“Mae creadigrwydd yn ffordd bwerus o fynegi, prosesu a chymryd rheolaeth wrth ddelio â phroblemau iechyd meddwl a gallwn weld fod hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngweithiau celf gwych Freya a Kenny.
“Mae’r digwyddiad Adeiladu Llwybr wedi rhoi cyfle i’r gymuned leol ddod ynghyd ac elwa ar greadigrwydd ein hartistiaid. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth a chreu cysylltiadau; mae dechrau sgwrs am iechyd meddwl yn hollbwysig i chwalu stigma a dangos i bobl nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.
“Rydyn ni mor ddiolchgar i Freya a Kenny am fod mor ddewr a rhannu eu gwaith celf a’u teithiau personol. Roedd yn arddangosfa hynod o emosiynol a diddorol.”

Lynda Williams
Rheolwr Byw â Chymorth ClwydAlyn