Mae preswylwyr Cartref Gofal Llys y Waun, ger Wrecsam, wrth eu bodd i glywed fod eu gardd synhwyraidd wedi derbyn canmoliaeth gan Ei Fawrhydi y Brenin Charles III mewn llythyr diweddar.
Y rheolwr Jane Humphreys gafodd y syniad o sefydlu a chreu gardd synhwyraidd Llys y Waun. Bwriad yr ardd, a agorwyd yn swyddogol ym mis Mai, yw ysgogi’r synhwyrau ac ennyn emosiynau cadarnhaol ymhlith preswylwyr Llys y Waun, y mae llawer ohonynt yn byw gyda dementia.
Mae’r ardd yn cynnig amgylchedd diogel ac ysgogol yn yr awyr agored, yn ogystal â’r nodweddion synhwyraidd canlynol i wella’r cof a llesiant a helpu pobl i ymlacio:
- Lliw
- Arogl
- Sain
- Gweadedd
Prif nodweddion yr ardd yw:
- Llwybrau hygyrch
- Clychseiniau gwynt
- Nodweddion dŵr
- Planhigion persawrus
- Nodweddion sy’n dal y llygad
- Gwelyau plannu uchel sy’n ddelfrydol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
- Ardaloedd cynhwysol i ymlacio
Bu holl aelodau tîm Llys y Waun yn codi arian er mwyn helpu i greu’r ardd synhwyraidd. Cafodd yr elfennau ymarferol eu harwain gan y Rheolwr Jane a’r Cydlynydd Gweithgareddau, Nicola Hughes. Roedd y tîm yn ddiolchgar i Cadwch Gymru’n Daclus am grantiau cymunedol sydd wedi helpu i ariannu rhannau o’r ardd, gan gynnwys y rhandir a’r gwelyau plannu uchel.
Wrth i’r newyddion am lwyddiant yr ardd ledaenu ar draws y gymuned gofal, cafodd y Rheolwr Jane ei gwahodd i fod yn siaradwr gwadd yn y Care Show Birmingham lle bu’n cymryd rhan mewn seminar ar y testun: ‘Getting Outdoor Spaces Right: Design, Use and Impact’.
“Fe wnes i fwynhau’r profiad o siarad yn Care Show, Birmingham yn fawr iawn. Mae’n anrhydedd enfawr fy mod i’n gallu ysbrydoli gweithwyr gofal proffesiynol eraill i gynnwys elfennau synhwyraidd yn eu hardaloedd awyr agored.
“Rydyn ni wedi bod yn dyst i fanteision gwych yr ardd synhwyraidd. Dyna pam mae cynlluniau ar droed i ddatblygu rhagor o dir yn Llys y Waun a chreu rhagor o gyfleoedd i’n preswylwyr fwynhau natur; felly, bydd rhagor o fanylion i ddilyn cyn bo hir!”
Ewch i: Llys y Waun – Clwydalyn i gael rhagor o wybodaeth am fyw yn Llys y Waun.
Photograph Credit Millie Pilkington 2024 – King Charles III – Australia.