Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn a’r fenter bwyd fforddiadwy Bwydo’n Dda / Well-Fed wedi cydweithio i gynnig gwasanaeth bwyd fforddiadwy newydd i drigolion y Rhyl, sef MealCentre. Mae MealCentre yn cyflenwi pecynnau prydau bwyd rhatach i’r cyhoedd ac mae bellach yn derbyn archebion wythnosol.
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi ymuno â’r mudiad datrysiadau bwyd Bwydo’n Dda / Well-Fed i gynnig pecynnau bwyd fforddiadwy o ansawdd – heb fwydydd wedi’u prosesu’n helaeth (UPFs) – a phrydau parod ffres i’r gymuned. Gyda phwyslais ar wella bywydau trwy gynnig datrysiadau bwyd arloesol a hygyrch, mae dewis amrywiol o becynnau prydau a phecynnau poptai araf ar gael am bris fforddiadwy o’r MealCentre, yn Adeilad y Drindod Sanctaidd y Rhyl, ar dir eglwys Sant Tomos. Mae cyfle hefyd i ddefnyddwyr gwasanaeth y MealCentre wella eu hyder a’u sgiliau wrth ddeall sut i fwydo eu hunain a’u teuluoedd yn dda!
Nod rhaglen Bwydo’n Dda yn y MealCentre yw sicrhau bod bwyd da yn cyrraedd calon y gymuned, a hynny am bris rhesymol. Mae pob pecyn pryd bwyd yn hawdd ac yn gyflym i’w ddefnyddio: mae’r cynhwysion wedi’u pwyso a’u mesur yn barod ac mae cerdyn rysáit cam wrth gam wedi’i gynnwys sy’n hawdd ei ddilyn, gan wneud y broses baratoi yn syml ac yn hwylus i bawb.
Adborth Cyfranogwyr y Cynllun Peilot
Cafodd 12 o deuluoedd lleol gyfle i gymryd rhan yng nghynllun peilot y MealCentre yn y Rhyl. Dyma oedd barn rhai o’r cyfranogwyr am y profiad:
“Fe wnes i fwynhau coginio’r prydau ac roedd maint y cyfrannau yn dda iawn.”
“Rydyn ni wedi cael bolognaise, pastai’r bwthyn a llawer mwy. Mae fy mhlant yn bwyta’n dda ac maen nhw wedi mwynhau’r prydau i gyd.”
“Fe wnaeth dau o’r plant wir fwynhau fy helpu i goginio’r prydau.”
“Roedd yn ddiddorol gweld beth oedd yn y pecynnau ac fe wnes i fwynhau eu coginio.”
“Fy hoff bryd oedd Cyw iâr yr Heliwr; roedd digonedd o gynhwysion, roedd popeth yn ffres ac yn flasus iawn.”
“Roeddwn i’n hoffi’r lasagne, y porc brau, a’r peli cig Eidalaidd. Roedd maint y cyfrannau yn dda ac fe wnaeth y teulu fy helpu i wneud y prydau.”
Croesawu’r Gymuned i’r MealCentre
Mae MealCentre y Rhyl yn rhoi cyfle i unigolion a theuluoedd lleol gael gafael ar brydau blasus a maethlon. Gall pobl sy’n cael trafferth dod o hyd i brydau fforddiadwy a chynllunio prydau o’r fath gyflwyno archeb bob wythnos, o ddewis o ryseitiau, ac maen nhw’n costio rhwng £4.50 a £12.50 y pecyn. Mae’r pecynnau yn bwydo teulu o bedwar, ac mae prydau parod i unigolion ar gael hefyd. Mae defnyddio’r pecynnau prydau yn helpu defnyddwyr i wella eu hyder a’u sgiliau parataoi a choginio, ac mae cynhwysion o ansawdd uchel yn cael eu cynnig am bris fforddiadwy.
“Mae’r prydau sydd ar gael yn y MealCentre yn flasus iawn ac maen nhw’n gyflym ac yn hawdd eu coginio! Rydyn ni’n gobeithio bydd pobl yn manteisio ar y gwasanaeth newydd hwn yng nghanol y Rhyl.”
Beth sydd ar gael yn MealCentre y Rhyl?
Mae’r pecynnau bwyd sydd ar gael yn cynnwys popeth sydd ei angen i goginio pryd cartref, ac mae’r cynhwysion wedi’u pwyso a’u mesur ymlaen llaw i leihau gwastraff. Mae’r bwydlenni yn newid yn rheolaidd. Dyma rai enghreifftiau o’r prydau sydd ar gael:
- Pasta cyw iâr a madarch hufenog
- Chilli tatws melys gyda theisennau corn
- Biryani cyw iâr un sosban
- ‘Traybake’ cyw iâr blas barbeciw
- Cyw iâr rhost, pwdin Swydd Efrog, stwffin, llysiau a grefi
- Risotto madarch
“Fel eglwys, dylen ni fod yn poeni am fwyd a maeth – cofiwch fod y weithred ganolog o addoliad yn yr eglwys Gristnogol yn digwydd o amgylch bwrdd bwyd teuluol! Ac ers cyfnod y creu, mae Duw wedi sicrhau bod ei deulu dynol wedi cael bwyd o blanhigion, ffrwythau a hadau. Yn anffodus, y realiti yw bod llawer o bobl yn dioddef oherwydd tlodi bwyd ac epidemig o fwyd rhad afiach. Ein nod wrth gymryd rhan yn y prosiect hwn yw ei gwneud yn haws i bobl y Rhyl gael gafael ar fwyd da, iach.”
Ar ôl archebu prydau, gellir eu casglu o’r Caffi Cymunedol yn Adeilad y Drindod Sanctaidd ar dir Eglwys Sant Tomos, y Rhyl. Gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am redeg y MealCentre, ac mae’r prydau yn cael eu lapio’n ddiogel a’u cadw mewn oergell yn barod i’r teuluoedd eu casglu ar amser cyfleus, rhwng 11.00am a 2.30pm bob dydd Mawrth.
I gael rhagor o wybodaeth, galwch heibio Caffi Cymunedol Sant Tomos, neu ewch i: Collection Hubs – Well Fed a dewiswch Eglwys y Drindod Sanctaidd, y Rhyl.
I gysylltu â thîm Bwydo’n Dda / Well-Fed, e-bostiwch: info@well-fed.co.uk