Skip to content

Mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), canmolwyd Cartref Gofal Llys y Waun yn y Waun ger Wrecsam am ei “amgylchedd cartrefol a chyfforddus”, “mannau eithriadol lle gall pobl gael mynediad yn ddiogel ac yn rhydd at natur”, “llywodraethiant cadarn” a, “hyfforddiant trwyadl a thîm staff medrus sy’n cael ei werthfawrogi”.

Cynhaliwyd yr adroddiad chwemisol ar Gartref Gofal Llys y Waun ym Mehefin 2025 ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025, dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy’n rhoi’r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Adroddiad yn archwilio pedwar maes penodol:

  • Llesiant
  • Gofal a Chefnogaeth
  • Amgylchedd
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Yn eiddo i ClwydAlyn ac yn cael ei reoli ganddynt, mae Llys y Waun yn cynnig 66 o leoedd cofrestredig i oedolion hŷn sydd angen gofal dementia neu ofal preswyl. Mae’n gartref gofal a adeiladwyd i’r diben, sy’n cynnwys cyfleusterau modern, gyda staff sy’n ymroddedig i roi’r safon uchaf o ofal, cefnogaeth a chwmnïaeth 24 awr y dydd.

Yn dilyn yr arolygiad, a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2025, canfu AGC bod y preswylwyr yn ddiogel, yn cael gofal da ac yn mwynhau eu bywydau yn Llys y Waun, gyda’r cynlluniau gofal yn gadael i’r preswylwyr “fyw’n ddiogel ac iach gyda dewis a rheolaeth”. Roedd y ganmoliaeth hefyd yn canolbwyntio ar “ddefnydd rhagorol a chreadigol y gwasanaeth o’r lle,” gyda’r adroddiad yn tanlinellu’r gymuned glos a’r awyrgylch cartrefol. Ni nodwyd unrhyw feysydd fel rhai angen eu gwella.

“Rydym yn hynod falch o Adroddiad Arolygiad AGC yn ddiweddar ar ein cartref gofal i’r henoed, Llys y Waun.
“Roedd yr adroddiad yn amlygu arbenigedd ein staff yn benodol a’u gallu i ddiwallu anghenion gofal, yn ogystal â’r amgylchedd ‘ragorol’ a ddarperir sy’n cefnogi llesiant ein preswylwyr.”
“I deuluoedd ac anwyliaid mae dewis darpariaeth dementia yn dasg gymhleth ac emosiynol. Rydym yn falch bod yr Arolygiaeth Gofal wedi rhoi’r adborth gwych yma, a fydd yn helpu yn y broses o wneud y penderfyniad yma.”
Edward Hughes
Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal a Chefnogaeth ClwydAlyn

I gael rhagor o wybodaeth neu i lawrlwytho’r daflen gyfredol ewch i: Llys y Waun – Clwydalyn