Skip to content

Mae preswylwyr wedi dechrau ymgartrefu yn y datblygiad o 56 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni ym Mynydd Isa, Sir y Fflint.

Mae ClwydAlyn wedi cydweithio gyda’r datblygwr Castle Green Partnerships, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru, i adeiladu 56 o gartrefi newydd am oes, y mae galw mawr amdanynt yn ardal Mynydd Isa.

Datblygiad Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa

Dechreuodd y gwaith ar ddatblygiad Ffordd yr Wyddgrug ym mis Awst 2023 ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn yr hydref 2025. Mae’r cartrefi un, dwy a thair ystafell wely yn cynnwys byngalos, fflatiau, tai pâr a thai ar wahân yn ogystal ag un byngalo sydd wedi’i addasu.

Mae’r holl gartrefi yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi  Prydferth Llywodraeth Cymru, a gellir cyflwyno gwneud cais i fyw yno drwy Gyngor Sir y Fflint.

“Rydyn ni wrth ein bodd â’n cartref newydd.
“Mae popeth yn llawer mwy hygyrch. Rydyn ni’n symud yma er mwyn gwneud bywyd yn haws i’n mab anabl, wyth oed.
“Mae byw mewn byngalo yn golygu na fydd angen poeni am ei gario i fyny’r grisiau a bydd hyn yn cael effaith fawr; bydd popeth yn llawer gwell i bawb.
“Rydyn ni wedi symud o lety rhent preifat yn yr Wyddgrug ac roedden ni ar y rhestr aros am dros 3 blynedd. Mae’n rhyddhad mawr cael symud yma.”
Tara Richards
o’r preswylwyr newydd

Mae Julianne Haycock, ei gŵr a’u dau blentyn, wedi symud i’r datblygiad hefyd.

“Roedden ni’n arfer byw mewn tŷ dwy lofft yn yr Wyddgrug. Mae tair llofft yma, felly bydd gan ein mab a’n merch ystafell yr un.”
Julianne Haycock
o’r preswylwyr newydd

Mewn ymdrech i leihau tlodi tanwydd, mae pob cartref yn natblygiad Mynydd Isa yn cynnwys y nodweddion canlynol:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Lleoliad sy’n manteisio i’r eithaf ar wres yr haul a golau naturiol
  • Cyfleusterau gwefru car trydan

Bydd y cartrefi hyn yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd drwy arbed ynni gwerthfawr a helpu preswylwyr i arbed arian yn y tymor hir hefyd.

Yn ogystal â hyn, adeiladwyd pob cartref gan ddefnyddio fframiau pren manwl-gywir o ffynonellau cynaliadwy. Mae’r fframiau hyn yn golygu bod y broses adeiladu yn gyflym ac yn ddibynadwy

“Adeiladwyd y datblygiad newydd yn Ffordd yr Wyddgrug yn unol â’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni. Er mwyn adeiladu mewn ffordd gynaliadwy, rydym wedi gweithio gyda Castle Green Partnerships i ddefnyddio’r dechnoleg a’r defnyddiau diweddaraf. Mae hyn yn golygu costau rhedeg effeithlon i breswylwyr a phroses adeiladu sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd.
“Mae galw mawr am gartrefi o’r fath yn yr ardal, ac roedd yn bleser croesawu’r preswylwyr newydd yr wythnos yma. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi symud i’w cartrefi newydd!”

Penny Storr
Pennaeth Datblygu a Thwf ClwydAlyn
“Mae trosglwyddo’r cartrefi cyntaf ym Mynydd Isa i ClwydAlyn yn nodi cyfnod allweddol yn ein partneriaeth wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu tai fforddiadwy y mae galw mawr amdanyn nhw yn Sir y Fflint a ledled Gogledd Cymru. Mae’r cynllun hwn yn enghraifft wych o’r ffordd mae’r model partneriaethau yn mynd i’r afael â’r prinder tai ac yn darparu cartrefi newydd, ynni-effeithlon o ansawdd uchel.”
Eoin O’Donnell
Dywedodd Cyfarwyddwr Castle Green Partnerships

I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: https://www.clwydalyn.co.uk/cy/our-developments/