Roedd y preswylwyr newydd wrth eu bodd yn symud i ddatblygiad newydd gwerth £11 miliwn ClwydAlyn ar Ffordd Rhuddlan, Bodelwyddan, yn ddiweddar.
Mae’r cartrefi olaf yn natblygiad newydd ClwydAlyn ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, bellach wedi cael eu trosglwyddo i’r preswylwyr. Mae’r datblygiad o 33 o gartrefi yn cynnwys 4 fflat un ystafell wely, 12 fflat dwy ystafell wely, 3 tŷ dwy ystafell wely, ac 14 tŷ tair ystafell wely.
Mae’r datblygiad yn rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Sir Ddinbych, ac mae pob cartref yn cynnig y safonau uchaf o ran effeithlonrwydd gan olygu y bydd y biliau ynni yn is.
33 o Gartrefi Fforddiadwy yn Sir Ddinbych
Dywedodd Penny Storr, Pennaeth Datblygiad a Thwf ClwydAlyn: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r 24 teulu olaf i’r datblygiad tai newydd.
“Rydyn ni’n wedi ymroi i wella bywydau ein preswylwyr drwy leihau biliau ynni, darparu cartrefi cynnes a rhoi cymorth i sicrhau bod pawb yn cael y canlyniadau iechyd a llesiant gorau.
“Mae’r cartrefi newydd hyn nid yn unig yn cyrraedd ein targedau amgylcheddol newydd, maen nhw hefyd yn gartrefi fforddiadwy a braf lle gall pobl ffynnu.”
Adeiladwyd pob cartref ym Maes y Llan gan ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern. Mae deunydd inswleiddio o ansawdd uchel yn cadw’r cartrefi yn gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf. Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn darparu’r gwres a dŵr cynnes. Ac i wneud y cartrefi mor effeithlon â phosibl o ran ynni, mae’r paneli trydan solar wedi’u gosod i wneud y mwyaf o ynni’r haul.
Beth yw barn y Preswylwyr newydd?
Symudodd Khadijah Hampton i’r datblygiad gyda’i phartner a’i dau blentyn.
“Rydyn ni’n teimlo’n ddiogel yma oherwydd y camerâu diogelwch ac mae drws ffrynt y fflatiau yn ddiogel hefyd.
“O’r diwedd, byddwn yn gallu ymgartrefu yma fel teulu, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i’n dyfodol yma.”
“Mae digon o le yn y fflat; bydd yn addas iawn i ni a’n merch fach.”
“Y peth gorau i mi yw’r ardal; mae’n atyniad mawr gan fod mam a’m modryb yn gweithio yn yr ysbyty yr ochr arall i’r ffordd, byddan nhw’n gallu galw draw am baned!”
Dywedodd Heidi McDougall, Pennaeth Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Rydyn ni’n falch iawn bod y gwaith o godi’r cartrefi newydd ynni-effeithlon ym Modelwyddan wedi’i gwblhau. Cafodd y cynllun ei ddarparu mewn partneriaeth â ClwydAlyn a Llywodraeth Cymru. Mae’r datblygiad yn cyfrannu at flaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor i weithio mewn partneriaeth a darparu rhagor o dai fforddiadwy i breswylwyr, gan helpu pobl leol i gael cartrefi diogel a modern yn eu cymunedau, yn ogystal â chwarae rôl allweddol i gryfhau cymunedau ledled Sir Ddinbych.”
Darparwyd y datblygiad tai gan y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn mewn partneriaeth â’r contractwr uchel ei barch K&C Construction a gyda chyfraniad ariannol gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru. Mae pob cartref yn bodloni ac yn rhagori ar Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru (SATC), Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau arfaethedig ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/developments
I gael rhagor o fanylion am ddatblygiad Maes y Llan, ewch i: Maes y Llan, Ffordd Rhuddlan – Clwydalyn
Maes y Llan