Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn, sydd â phencadlys yn Llanelwy, Sir Ddinbych, wedi cadw ei sgôr credyd ‘A’, gyda rhagolwg sefydlog. Cafodd hyn ei gadarnhau gan yr asiantaeth cyfeirnod credyd amlwladol blaenllaw, S&P Global.
Mae’r adolygiad credyd, a gynhaliwyd fel rhan o archwiliad credyd blynyddol, yn dangos bod ClwydAlyn mewn sefyllfa gadarn yn ariannol a’i fod yn elwa ar reolaeth ariannol dda.
Cyhoeddwyd adroddiad diweddar S&P Global ar 3 Mehefin 2025, a chadarnhawyd sgôr credyd hirdymor ‘A’ ClwydAlyn. Yn ôl yr adroddiad: “Rydym yn disgwyl i fetrigau ariannol Tai ClwydAlyn Cyf, y darparwr tai cymdeithasol o Ogledd Cymru, aros yn sefydlog.”
Sefydliad nid-er-elw yw ClwydAlyn ac mae’n rheoli neu’n berchen ar dros 6,800 o gartrefi gan gyflogi dros 800 o staff. Mae’r sgôr yn adlewyrchu sefyllfa ariannol sefydlog ClwydAlyn sy’n seiliedig ar gynllun tymor hir i adeiladu rhagor o dai ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, gan gynnig amrywiaeth o denantiaethau i fodloni anghenion teuluoedd ac unigolion y mae angen tai fforddiadwy arnynt.
Mae S&P Global yn darparu gwybodaeth, ymchwil a dadansoddiad ar sail data i asesu sgôr credyd sefydliadau. I gael rhagor o fanylion am adroddiad credyd ClwydAlyn, ewch i: U.K. Social Housing Provider ClwydAlyn Housing Lt | S&P Global Ratings