Skip to content

Mae cymdeithas dai ClwydAlyn wedi lansio menter cynhwysiant digidol newydd er mwyn helpu preswylwyr i ddefnyddio technoleg. Bydd yn sicrhau y gall preswylwyr sy’n awyddus i wella eu llythrennedd digidol gael gafael ar y cymorth perthnasol.

Mae adroddiadau diweddar yn awgrymu mai 41% yn unig o bobl dros 75 oed sydd â sgiliau digidol sylfaenol ac ‘er bod defnydd o’r rhyngrwyd yn cynyddu ymhlith oedolion hŷn, mae angen mwy o gefnogaeth uniongyrchol i wella sgiliau a hyder.’[1]

Mae ClwydAlyn, sy’n darparu tai cymdeithasol ledled Gogledd Cymru, bellach wedi penodi Gill Edgar yn Swyddog Cymorth Cymunedol, a bydd yn canolbwyntio ar roi cymorth un-i-un i breswylwyr y mae angen cymorth arnynt i gael mynediad at ddyfeisiau digidol a’u defnyddio’n effeithiol.

Dechreuodd Gill ar ei swydd newydd ar ddiwedd 2025 ac mae hi eisoes wedi bod yn ymweld â phreswylwyr mewn grwpiau bach i ddysgu am eu hangenion unigryw a rhannu ei gwybodaeth.

[1] Cwmpas: Cynhwysiant Digidol: Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol – Gorffennaf 2024, Final-Cwmpas-Digital-Inclusion-Vision-for-the-Future-0724.pdf

“Y rhan fwyaf o’r amser, mae gan ein preswylwyr ddyfeisiau; ffôn clyfar neu dabled.”

“Yr hyn sy’n bwysig yw helpu pobl i ddefnyddio’r dyfeisiau ar gyfer eu hanghenion; boed hynny’n golygu lawrlwytho ap, trefnu apwyntiadau neu osod gwasanaethau ffrydio ar y teledu.”
Gill Edgar
Swyddog Cymorth Cymunedol

Gan fod mwy o mwy o wasanaethau iechyd bellach yn cael eu darparu ar-lein, credir y bydd allgáu digidol yn arwain yn y pen draw at anghydraddoldebau iechyd.

Mewn adroddiad ar Dechnoleg Ddigidol ac Iechyd, dywedodd Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru: ‘Sianeli digidol yw un o’r ffyrdd gall dinasyddion Cymru gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau sy’n ymwneud ag iechyd.

‘Pan fydd pobl wedi’u hallgáu yn ddigidol – boed hynny oherwydd diffyg mynediad, sgiliau neu gymhelliant – yna mae’n effeithio ar eu cyfle i gael mynediad at y gwasanaethau a fydd yn gwella eu hiechyd yn y tymor hir hefyd.’[2]

Fel cymdeithas gyda tua 13,000 o breswylwyr, mae ClwydAlyn yn awyddus i sicrhau bod y bobl hynny y mae angen cymorth arnynt, nid yn unig i ‘fynd ar-lein, ond i ddefnyddio eu dyfeisiau yn fwy hyddysg, yn cael pob cyfle i wella eu sgiliau.

Mae’r preswyliwr Joan yn credu ei bod hi wedi dysgu rhai sgiliau newydd defnyddiol, diolch i’r cymorth cynhwysiant digidol mae hi wedi’i dderbyn.

[2] Iechyd Cyhoeddus Cymru, Technoleg ddigidol ac anghydraddolebau iechyd: adolygiad cwmpasu, phw.nhs.wales/publications/publications1/digital-technology-and-health-inequalities-a-scoping-review/


[2] Public Health Wales, Digital technology and health inequalities: a scoping review, phw.nhs.wales/publications/publications1/digital-technology-and-health-inequalities-a-scoping-review/

“Mae’r sesiynau gyda Gill yn ddefnyddiol iawn. Heddiw, fe wnaeth hi ddangos i mi sut mae trefnu apwyntiad gyda’r meddyg ar-lein, a hefyd sut i ddefnyddio fy ffôn fel dyddiadur, a fydd yn help mawr i mi!
“Byddwn yn bendant yn argymell y sesiynau cynhwysiant digidol; mae gan Gill ffordd wych o gyflwyno popeth, dydy hi ddim yn mynd yn rhy gyflym ac mae hi bob amser yn gwenu. Mae ei ffordd hi o gyflwyno pethau yn fy helpu i ddysgu, ac rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda hi.”

Joan
ClwydAlyn preswyliwr

Dywedodd preswyliwr arall, 60 oed: “Mae’n wasanaeth gwych ac mae Gill yn anhygoel; mae hi wedi dysgu sgiliau hanfodol i mi – sut i ddefnyddio bancio ar y rhyngrwyd, siopa ar-lein, trefnu apwyntiadau meddygol, archebu presgripsiynau, defnyddio dyfeisiau yn fy nghartref.

“Mae technoleg yma i aros, felly mae angen i ni groesawu hyn gan y bydd yn gwneud ein bywydau yn well. Diolch i gymorth Gill, mae pethau’n achosi llai o straen i mi ac rwyf wedi arbed llawer o amser; mae wedi newid fy mywyd!”

Dywedodd Gill, “Mae’r cyfan yn ymwneud â meithrin hyder. Bydd ffrindiau ac aelodau o’r teulu yn aml yn ‘helpu’ drwy ddatrys problem ond maen nhw’n anghofio esbonio sut gwnaethon nhw ei datrys. Mae hyn yn wych fel ateb dros dro, ond yn y tymor hir, mae deall sut i drefnu apwyntiad neu osod dyfais eich hun yn llawer mwy defnyddiol.”

Ar hyn o bryd, mae ClwydAlyn yn cynnig gwasanaethau anffurfiol a syml i’w breswylwyr, a does dim pwysau i ymrwymo i nifer penodol o sesiynau neu gyrraedd ‘lefel’ penodol. Does dim rhwystrau o ran mynediad, ac mae preswylwyr o bob oedran ac incwm yn gymwys i dderbyn y cymorth.

“Gallwn gynnig help gyda phob math o bethau, beth bynnag fydd o gymorth i’n preswylwyr. Gallai hynny olygu dysgu pobl sut i agor cyfrif e-bost, gosod ap negeseua neu ddefnyddio ap siopa archfarchnad. Rydyn ni’n edrych ymlaen i helpu rhagor o breswylwyr drwy ddangos iddyn nhw sut gall technoleg ddigidol wella eu bywydau.”

Yn ogystal â sesiynau i grwpiau bach ac unigolion, bydd ClwydAlyn yn cydweithio â Cartrefi Conwy a Chyngor Conwy i gynnal cyfres o sesiynau sgiliau digidol i’r cyhoedd. Cadwch lygad am ragor o fanylion am y sesiynau hyn, a fydd yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Conwy cyn bo hir.

Eisiau Trefnu Sesiwn Sgiliau Digidol?

Cael y Cymorth Sydd Ei Angen Arnoch
Gall preswylwyr ClwydAlyn drefnu sesiwn sgiliau digidol gyda Gill drwy ffonio 07970 146217, anfon e-bost at: gill.edgar@clwydalyn.co.uk neu ofyn i’w swyddog tai eu cyfeirio at y gwasanaeth.