Skip to content

Mae darparu cartref o safon yn hanfodol i iechyd a lles pobl ac mae ganddo effeithiau cadarnhaol ehangach ar y gymuned leol.

Dyna oedd un o’r prif bwyntiau trafod mewn trafodaeth a gynhaliwyd gan bedair cymdeithas tai cymdeithasol yng ngogledd Cymru ar Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam heddiw (dydd Mawrth, 5 Awst).

Effaith y sector tai, pwysigrwydd y gwerth cymdeithasol a ddarperir i gymunedau lleol, cefnogi tenantiaid drwy’r  argyfwng costau byw ac ymgysylltu â’r gymuned oedd rhai o’r pynciau allweddol eraill a drafodwyd yn y sesiwn.

Ar y panel roedd:

  • Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra,
  • Osian Elis, Pennaeth Tai â Chymorth yng Nghymdeithas Tai Gogledd Cymru,
  • Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol yng Ngrŵp Cynefin,
  • Claire Morgan, Pennaeth Pobl ClwydAlyn,
  • Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn.
Roedden ni wrth ein bodd yn cynnal trafodaeth mor bwysig ar Faes yr Eisteddfod.

Mae cymdeithasau tai cymdeithasol ledled gogledd Cymru yn chwarae rhan werthfawr ac yn cael effaith sylweddol ar gymunedau. Ond rydym ni’n fwy na dim ond cymdeithasau tai - rydym yn darparu ystod o gefnogaeth ychwanegol i’n cwsmeriaid.

Llefarydd ar ran y panel
“Mae argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith ar denantiaid ledled y rhanbarth ac rydym wedi bod yn darparu rôl gefnogol trwy helpu i gyfeirio tenantiaid at gyngor a chefnogaeth ariannol. Mae hyn yn helpu eu hiechyd a’u lles o ran cynyddu eu hincwm i’r eithaf a darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol ar effeithlonrwydd ynni i leihau biliau tanwydd cynyddol.

“Mae ymgysylltu â’r gymuned yn elfen arwyddocaol o’n gwaith. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau cymunedol i drefnu digwyddiadau a mentrau addysgol, amgylcheddol a chymdeithasol i gefnogi ein tenantiaid. Cefnogir hyn gan brosiectau i wneud ein cymunedau’n fwy diogel.

“Mae’r sector tai cymdeithasol hefyd yn cefnogi’r economi leol drwy ddyfarnu contractau i fusnesau bach a chanolig eu maint, yn ogystal â chontractwyr mwy. Mae hyn yn helpu i gadw’r bunt yn lleol, yn cefnogi cwmnïau lleol i gyflogi staff lleol ac yn helpu i amddiffyn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg drwy ddarparu swyddi o safon yn lleol.

“Ond ni allwn wneud y gwaith hwn ar ein pen ein hunain ac mae gennym enghreifftiau o bartneriaeth wych o fewn y sector tai yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ond hefyd gydag ystod eang o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat – i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi tenantiaid a helpu ein cymunedau ledled gogledd Cymru i ffynnu.
Llefarydd ar ran y panel