Mae ClwydAlyn, y darparwr tai cymdeithasol sydd â’i bencadlys yn Sir Ddinbych, wedi cyhoeddi lansiad cynllun corfforaethol newydd sy’n nodi ei flaenoriaethau a’i brif nod; Cymru heb dlodi.
Datgelwyd cynllun corfforaethol ClwydAlyn am y tro cyntaf yr wythnos hon, ac mae’n amlinellu ei genhadaeth, sef ‘gyda’n gilydd, byddwn yn rhoi diwedd ar dlodi.
Wrth i dlodi gynyddu ar draws pob demograffeg yng Nghymru, mae ClwydAlyn yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gynifer o bobl â phosibl. Mae’r sefydliad wedi cymryd camau breision i fynd i’r afael â thlodi, tra’n cydnabod bod heriau yn parhau, ac mae’n credu bod gweithredu mewn ffordd ragweithiol yn bwysicach nag erioed. Felly, mae ClwydAlyn unwaith yn rhagor wedi ymrwymo i gymryd camau dewr i newid y sefyllfa, ac mae’r rhain wedi’u cynnwys yn ei gynllun corfforaethol pum mlynedd newydd.
Fel darparwr tai cymdeithasol sefydledig, mae ClwydAlyn yn rheoli neu’n berchen ar dros 6,800 o gartrefi yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy, Wrecsam, Powys ac Ynys Môn. Mae’r rhain yn cynnwys tai cymdeithasol i deuluoedd a phobl sengl, yn ogystal â gwasanaethau nyrsio a gofal arbenigol, cynlluniau byw â chymorth a byw’n annibynnol, perchnogaeth tai cost isel, gwasanaethau rheoli prydlesi, a chartrefi rhent canolraddol a phris y farchnad.
Yn 2020, cyflwynodd ClwydAlyn fenter ‘dim troi allan’ arloesol, gan ymrwymo na fyddai’n troi preswylwyr allan o’u cartref a’u gwneud yn ddigartref, a chanolbwyntio ei adnoddau ar weithio gyda phreswylwyr i ddeall eu hamgylchiadau.
“Rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yn ein rhanbarth. Mae ein cynllun corfforaethol newydd yn ddatganiad gweithredol o bwrpas, ac mae’n manylu ar sut rydym yn bwriadu cyflawni ein blaenoriaethau.
“O ddatblygu cartrefi mwy diogel a fforddiadwy, i gydweithio er mwyn defnyddio ein dylanwad a bod yn lais cryf i’n preswylwyr a’n cymunedau; mae llawer o waith i’w wneud.
“Rydym yn gwybod na allwn roi diwedd ar dlodi ar ein pen ein hun a rhan bwysig o’n gwaith yw cydweithio â phartneriaid ledled Gogledd Cymru sy’n rhannu ein blaenoriaethau. Mae dechrau sgyrsiau gyda sefydliadau sy’n rhannu ein huchelgais i roi diwedd ar dlodi ac anghydraddoldeb yn nodwedd bwysig o’n cynllun corfforaethol newydd. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar y cyd ac rydym yn edrych ymlaen i greu newid gwirioneddol yng Ngogledd Cymru.”
Mae’r cynllun newydd yn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth allweddol:
- Rhoi diwedd ar ddigartrefedd
- Sicrhau y gall preswylwyr a staff fyw mewn cartrefi diogel, cynnes
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod bwyd da a fforddiadwy ar gael ym mhob un o’n cymunedau
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun corfforaethol pum mlynedd newydd ClwydAlyn, ewch i: CA-CP25_A4-plan_ENG.pdf



