Skip to content

Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi creu partneriaeth gyda Trafnidiaeth Cymru i osod unedau storio beiciau mewn nifer o’i ddatblygiadau preswyl, gan helpu preswylwyr i storio eu beiciau ac eitemau hanfodol eraill mewn man diogel sy’n gwrthsefyll y tywydd.

Cafodd cynllun storfeydd beiciau newydd ClwydAlyn ei roi ar waith diolch i arian gan Trafnidiaeth Cymru, fel rhan o Gam 1 y Rhaglen Siediau Beiciau. Mae’r prosiect hefyd yn cefnogi ymrwymiad parhaus ClwydAlyn i fodloni amcanion Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (SATC), sy’n rhoi mwy o bwyslais ar ardaloedd storio awyr agored a byw’n gynaliadwy.

Yn dilyn bid ariannu llwyddiannus, penodwyd cwmni Cyclehoop i gyflenwi a gosod yr unedau storio. Mae unedau storio Cyclehoop yn adnabyddus am eu dyluniad cryf, sy’n gallu gwrthsefyll fandaliaeth, a bydd yr unedau Cyclehoop yn galluogi preswylwyr i storio beiciau mewn man diogel gerllaw eu cartrefi.

Cefnogi Teithio Llesol a Chynaliadwy

“Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda ClwydAlyn, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru, a darparu’r unedau storio beiciau diogel newydd hyn ar gyfer cartrefi ac ardaloedd cymunedol ledled Cymru. Fel rhan o Gam 1 ein Rhaglen Siediau Beiciau, rydyn ni’n gosod 40 uned storio yn ardaloedd wyth cymdeithas dai a’r bwriad yw gosod rhagor ger gorsafoedd rheilffordd. Bydd y gwelliannau ymarferol hyn yn ei gwneud yn haws i bobl gerdded, beicio a defnyddio unrhyw offer arall sydd ag olwynion, ac rydyn ni’n falch o ddod â’r manteision hyn i gymunedau sy’n cael eu gwasanaethu gan ClwydAlyn.”
llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru
“Fel rhan o’r SATC newydd, mae ClwydAlyn wedi ymrwymo i ddarparu ardaloedd storio cadarn, cloadwy, allanol i’n preswylwyr. Mae’r unedau storio hyn yn helpu preswylwyr i storio eitemau fel beiciau, offer garddio, cadeiriau gwthio a chymhorthion symudedd, gan eu hannog i ddefnyddio dulliau teithio llesol ar yr un pryd.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i fod yn rhan o’r prosiect hwn gyda Trafnidiaeth Cymru ac am yr arian a ddarparwyd gan gynllun Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Hyd yma, rydyn ni wedi gosod pedair uned storio beiciau ar gyfer ein preswylwyr ym Mhrestatyn, Bagillt, Yr Wyddgrug a Wrecsam.

“Rydyn ni’n bwriadu parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i osod rhagor o unedau storio eleni fel y gall mwy o breswylwyr elwa ar gyfleusterau storio beiciau diogel. Mae unedau Cyclehoop yn wych. Maen nhw’n gadarn, yn gallu gwrthsefyll fandaliaeth, ac yn eithriadol o ddiogel. Trwy osod yr unedau storio hyn, ynghyd â mentrau eraill i helpu preswylwyr i ddefnyddio beiciau, ein gobaith yw y bydd hyn yn arwain at welliant gwirioneddol mewn teithio llesol, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar lesiant corfforol a meddyliol.”
Ynyr Parri
Rheolwr Eiddo (SATC) ClwydAlyn