Skip to content

Dewch i fwynhau cyffro’r bêl gron! Mae pwyllgor codi arian cymunedol ClwydAlyn, y darparwr tai cymdeithasol o Lanelwy, yn trefnu twrnament pêl-droed 6 bob ochr i godi arian i Hosbis Sant Cyndeyrn.

Os ydych chi’n mwynhau cicio pêl, cael hwyl a chodi arian i elusen ar yr un pryd, yna beth am drefnu tîm, glanhau eich esgidiau pêl-droed, ac ymuno â’r twrnament pêl-droed cyffrous sy’n cael ei drefnu gan Bwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol ClwydAlyn (neu’r SAS)!

Pryd: Dydd Sul, 27 Gorffennaf

Amser: 10am – 2pm

Lleoliad: Canolfan Hamdden Llanelwy

Pam? I gael hwyl, ymarfer corff a chodi £££ i elusen werth chweil, Hosbis Sant Cyndeyrn!

Awydd cymryd rhan? Mae Pwyllgor SAS ClwydAlyn yn chwilio am 18 o dimau chwech bob ochr, i gymryd rhan yn y twrnament.

Bydd y twrnament yn cael ei gynnal drwy Tournament Planner Tournify a’i drefnu gan Martin Halewood, cydweithiwr yn ClwydAlyn.

Y Manylion:

  • Byddwch yn barod i gael llawer o hwyl!
  • Uchafswm o wyth chwaraewr i bob tîm (mae hyn yn cynnwys dau eilydd) a rhaid i bob chwaraewr fod yn 16 oed o leiaf
  • Bydd y gemau yn dechrau yn brydlon am 10am ar 27 Gorffennaf, a rhaid i bob tîm gyrraedd erbyn 9.30am yn barod ar gyfer y chwiban gyntaf!
  • Bydd swyddogion cymorth cyntaf hyfforddedig ar y safle drwy gydol y twrnament
  • Bydd dŵr a diodydd ysgafn ar gael am gyfraniad bach i Hosbis Sant Cyndeyrn
  • Codir tâl cofrestru o £80 am bob tîm. Gan mai 18 tîm yn unig all gymryd rhan yn y twrnament, cofrestrwch ar unwaith i gadw eich lle!

Cofrestrwch eich tîm nawr, rhag ofn i chi gael eich siomi, drwy glicio YMA!

“Rydyn ni’n falch iawn o gynnal twrnament cyntaf chwech bob ochr ClwydAlyn! Trwy gymryd rhan, byddwch yn cyfarfod pobl o’n cymuned leol, yn mwynhau diwrnod cyfan o chwaraeon tîm ac yn codi arian i elusen leol. Bydd yr holl arian yn helpu i gynnal Hosbis Sant Cynderyn; lle gwych sy’n cyfrannu cymaint i’n cymuned leol.”
Martin Halewood
Tournament Organiser, ClwydAlyn
‘Ar ran pawb yn yr hosbis, hoffwn ddiolch i ClwydAlyn am ddewis ein cefnogi ni yn ystod 2025. Rwy’n gobeithio y bydd y twrnament 6 bob ochr yn llwyddiant mawr ac yn ddiwrnod llawn hwyl i bawb fydd yn cymryd rhan. Pob lwc i bawb’.
Alwyn Mason
Swyddog Codi Arian Corfforaethol yr hosbis

Wyddech chi ei bod hi’n costio dros £9,000 y dydd i gynnal y cyfleusterau yn Hosbis Sant Cyndeyrn? Trwy gydol 2025, mae pwyllgor SAS ClwydAlyn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o Hosbis Sant Cyndeyrn a chodi arian ar ei chyfer, ac mae wedi enwi’r hosbis yn ‘Elusen y Flwyddyn’.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y twrnament neu sut i gymryd rhan, e-bostiwch: SportsAndSocial@clwydalyn.co.uk

football pitch