Mae pedair cymdeithas dai – Adra, ClwydAlyn, Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru – wedi dod ynghyd i arddangos yn yr Eisteddfod eleni, a gynhelir rhwng 2 a 9 Awst yn Wrecsam.
Yr Eisteddfod yw’r dathliad mwyaf o ddiwylliant Cymru ac mae’n gyfle i ddod â chymunedau o bob rhan o Gymru at ei gilydd i ddathlu’r iaith Gymraeg, y celfyddydau, cerddoriaeth, a llawer mwy. Mae’r Eisteddfod flynyddol yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendar llawer o bobl; cyfle i ymuno â ffrindiau, teuluoedd a chymunedau a chanolbwyntio ar y Gymraeg a’i threftadaeth.
Roedd y pedair cymdeithas dai yng ngogledd Cymru, sy’n rheoli ac yn berchen ar dros 20,000 eiddo ledled Gogledd a Chanobarth Cymru, yn awyddus i fod yn rhan o’r dathliad, a’r cyfle i roi sylw i’r hyn sydd wrth galon eu cymdeithasau: cymuned. Bydd Adra, ClwydAlyn, Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru yn estyn croeso cynnes i ymwelwyr drwy gydol Eisteddfod 2025, ac yn cydnabod rolau hanfodol cymdeithasau tai; sef cynnig cartrefi diogel a chynnes i breswylwyr a darparu pob math o wasanaethau cymorth i’r bobl mae arnynt eu hangen.
Bydd y sefydliadau yn canolbwyntio ar themâu gwahanol bob diwrnod i ddangos pa mor werthfawr yw ‘cymuned’ ac yn defnyddio eu llwyfannau unigol i ddod ag ymwelwyr a phreswylwyr ynghyd i fwynhau’r dathliadau ac ystyried ystyr ‘cartref’.
Gall ymwelwyr â’r stondin fwynhau cerddoriaeth fyw gan Band Bwced, gweithgareddau i bob oedran, paentio wyneb a gêm gyffrous ‘Cyclone’, yn ogystal â dyddiau arbennig ar y themâu canlynol:
- Dydd Llun 4 Awst – Iechyd a Llesiant
- Dydd Mawrth 5 Awst – Diwrnod Arweinyddiaeth
- Dydd Mercher 6 Awst – Diwrnod Gwyrdd
- Dydd Iau 7 Awst – Diwrnod Tai Fforddiadwy
- Dydd Gwener 8 Awst – Diwrnod Cyfleoedd Recriwtio
Cynhelir sgyrsiau panel gyda siaradwyr o bob un o’r cymdeithasau tai ddydd Mawrth a dydd Iau am 11:00am ym Mhabell y Cymdeithasau.
Ledled Cymru, mae cymdeithasau tai yn darparu dros 173,000 o gartrefi i 300,000 a mwy o bobl, sef un o bob 10 o bobl ym mhob rhanbarth[1]. Maent yn rhedeg ac yn berchen ar gartrefi o bob math a phob deiliadaeth, gan gynnwys tai cymdeithasol fforddiadwy i deuluoedd ac aelwydydd sengl, yn ogystal â gwasanaethau nyrsio a gofal arbenigol, dewisiadau byw’n annibynnol a byw â chymorth, perchnogaeth cost isel, gwasanaethau rheoli prydlesau, tai canolraddol a rhent y farchnad.
[1] Cartrefi Cymunedol Cymru, Ebrill 2024: LGHC inquiry into social housing supply: CHC response
I gael rhagor o wybodaeth am Eisteddfod eleni, ewch i: Croeso | Eisteddfod
I ymweld â stondin Adra, ClwydAlyn, Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru, ewch i: 621-624.
I gael manylion am y sgyrsiau panel ym Mhabell y Cymdeithasau, ewch i: Rhaglen | Eisteddfod