Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gwanwyn 2027
Bydd y datblygiad hwn, sy’n werth £6.5 miliwn, yn darparu 17 o gartrefi newydd fforddiadwy i Benllech. Yr adeiladwyr yw DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.
Mae’r cymysgedd o gartrefi yn cynwys tai dwy a phedair ystafell wely. Mae’r holl gartrefi yn cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes ac maent wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd wrth i anghenion y preswylwyr newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy.
Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.
Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli trydan solar
- Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
- Cyfleusterau gwefru ceir trydan
- ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
- Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.
Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.
- 6 x tŷ 2 ystafell wely
- 5 x tŷ 3 ystafell wely
- 2 x tŷ 4 ystafell wely
- 1 x byngalo 3 ystafell wely
- 2 x fyngalo 2 ystafell wely, anabl
- 1 x byngalo 3 ystafell wely, anabl
Craig y Don, Benllech



