Skip to content

Mae DFN Project SEARCH yn rhaglen gyflogadwyedd a gaiff ei chydnabod yn genedlaethol sy’n helpu oedolion ifanc ag anawsterau dysgu i dreulio blwyddyn mewn gweithle. Y nod yw helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn a rhoi cyfle i gyflogwyr weld hynny hefyd. Mae’r rhaglen yn cael ei hwyluso drwy bartneriaeth rhwng y ddwy elusen DFN a Hft. O ran yr interniaid, y nod yw eu paratoi ar gyfer y gweithle a meithrin sgiliau bywyd, fel hyder ac annibyniaeth.

Dros y deg mis diwethaf, mae’r interniaid Alex, 32 oed, Hannah, 29 oed ac Emma, 22 oed, wedi cymryd rhan yn y prosiect. Cawson ni gyfle i gael gair gyda nhw yn dilyn eu seremoni raddio ddiweddar, i ddysgu rhagor am eu cyfnod ar y cynllun, beth wnaethon nhw eu ddysgu, a’u cynlluniau i’r dyfodol.

Enw: Alex 

Pam wnes ti ymuno â Project SEARCH?

Roeddwn eisiau cael swydd; cyn hyn, roeddwn wedi cael fy nhalu am roi sgyrsiau am awtistiaeth a ond doedd dim llawer o gyfleoedd i wneud hyn.

Pa sgiliau newydd wnest ti eu dysgu yn ystod y rhaglen?

Fe wnes i ddysgu sgiliau cyfweliad, y cwestiynau y gallai pobl eu gofyn a sut i’w hateb. Fe wnes i ddysgu sut i ddefnyddio peiriant barista a sut i ddefnyddio til. Ac fe wnes i ddysgu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid. Rwy’n credu fy mod i’n fwy hyderus ers bod ar y rhaglen ac rwyf wedi dysgu sgiliau gwaith fel gweithio ar fy CV ac ymgeisio am swyddi.

A wnaeth Project SEARCH dy helpu i benderfynu pa fath o swydd neu yrfa y byddet ti’n ei hoffi yn y dyfodol?

Do. Rwy’n edrych am swyddi ailgylchu neu adwerthu ar ôl bod ar leoliadau gwaith yn y meysydd hyn.

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried ymgeisio am Project SEARCH?

Byddwn yn bendant yn argymell Project SEARCH a byddwn ni’n dweud wrthyn nhw ei fod yn syniad da i ymuno os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i waith.

Beth yw’r un peth y byddi di bob amser yn ei gofio am dy amser ar Project SEARCH?

Dechrau ar y lleoliadau gwaith a dod yn gyfarwydd â’r gweithle a chael croeso gan y timau.

Enw: Hannah 

Pam wnes ti ymuno â Project SEARCH?

Roeddwn eisiau cael mwy o brofiad gwaith yn gyntaf er mwyn cael swydd a byw’n annibynnol.

Pa sgiliau newydd wnest ti eu dysgu yn ystod y rhaglen?

Defnyddio’r til, gweini ar gwsmeriaid, defnyddio’r peiriant barista i wneud diodydd, sgiliau arian, paratoi bwyd, gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu.

A wnaeth Project SEARCH dy helpu i benderfynu pa fath o swydd neu yrfa y byddet ti’n ei hoffi yn y dyfodol?

Do, drwy roi cynnig ar leoliadau gwahanol fe wnes i ddarganfod beth rwy’n mwynhau ei wneud; gwaith mewn caffi, cegin ac adwerthu.

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried ymgeisio am Project SEARCH?

Byddwn yn dweud ei fod yn syniad da oherwydd mae bod ar y rhaglen wedi rhoi mwy o brofiad i mi a sgiliau newydd ac wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus.

Beth yw’r un peth y byddi di bob amser yn ei gofio am dy gyfnod ar Project SEARCH?

Byddaf bob amser yn cofio’r amser wnes i dreulio gyda’r interniaid eraill a dod i’w hadnabod.

 

Enw: Emma 

Pam wnes ti ymuno â Project SEARCH?

Fe wnes i ymuno â Project SEARCH oherwydd fy mod eisiau swydd ond doeddwn i ddim yn siŵr pa fath o swydd.

Pa sgiliau newydd wnest ti eu dysgu yn ystod y rhaglen?

Paratoi bwyd, cyfathrebu, gwasanaeth cwsmeriaid, a gwaith tîm.

 A wnaeth Project SEARCH dy helpu i benderfynu pa fath o swydd neu yrfa y byddet ti’n ei hoffi yn y dyfodol?

Do, doeddwn i ddim yn sicr beth roeddwn am ei wneud ond ar ôl cwblhau fy lleoliad gyda Gwella yn y caffi, rwyf nawr yn gwybod beth rwyf eisiau ei wneud ac rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda Gwella ar ôl cael swydd yno.

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried ymgeisio am Project SEARCH?

Byddwn yn dweud ei fod yn syniad da gan ei fod wedi bod yn help mawr i mi o ran fy hyder.

Beth yw’r un peth y byddi di bob amser yn ei gofio am dy gyfnod ar Project SEARCH?

Gweithio gyda staff Gwella yn ystod fy lleoliad a chael croeso gan bawb yno.

Y seremoni raddio oedd y cyfle perffaith i ddathlu llwyddiant interniaid 2025, sydd nawr yn barod i wynebu eu heriau nesaf. Mae Emma wedi derbyn swydd barhaol gyda Gwella, ac mae Alex yn dal i fwynhau ei leoliad gwaith gyda Travis Perkins.

I gael rhagor o wybodaeth am DFN Project SEARCH a sut i ymgeisio i gymryd rhan yn y cynllun, ewch i: Home | DFN Project SEARCH

I gael rhagor o wybodaeth am Project SEARCH a rhaglenni cyflogadwyedd ClwydAlyn, e-bostiwch Annie Jackson: annie.jackson@clwydalyn.co.uk