Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol Interniaethau â Chymorth – dathliad cenedlaethol o interniaethau â chymorth yn y Deyrnas Unedig! Cafodd y diwrnod ei sefydlu a’i lansio yn 2023 gan ein partner cyflogadwyedd, DFN Project SEARCH.
Cynhelir Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau â Chymorth ar 27 Mawrth bob blwyddyn, a’r nod yw codi ymwybyddiaeth am interniaethau â chymorth a’r interniaid gwych y mae eu profiadau yn y gweithle yn helpu i feithrin hyder, gwella sgiliau a llunio’r dyfodol!
Mae ClwydAlyn yn mwynhau gweithio gyda DFN Project SEARCH ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r cynlluniau interniaethau sy’n cael eu cynnig i’r interniaid! Mae interniaethau â chymorth yn llwybr effeithiol i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth symud i fyd gwaith.
Eleni, cawsom gyfle i sgwrsio gyda rhai o’r interniaid, a chlywed rhagor am eu lleoliadau gwaith, a sut hwyl maent yn ei gael …

-
- Enw: Dylan
- Oed: 22 oed
- Yn dod o: Sir y Fflint
- Nod: Gweithio mewn cegin oherwydd rwyf wedi bod eisiau gwneud hynny ers i mi adael coleg.
- Lleoliad Presennol: Lleoliad cegin mewn cynllun byw’n annibynnol ClwydAlyn.
Cwestiynau Cyflym:
- Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?
Cyllell, llysiau a chacen
- Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?
Paned o goffi
- Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?
Plicio, torri, gweini a phobi
- Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?
Diwrnod mewn bywyd yn y Gegin gyda Tom Holland
Dewch i ddysgu rhagor am leoliad gwaith Dylan:
- Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Fe wnes i fwynhau dysgu beth mae’r preswylwyr yn hoffi ei gael i bwdin a chymdeithasu gyda holl staff y gegin a’r preswylwyr
- Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?
Rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth dderbyn adborth.
- Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?
Pobi oherwydd doeddwn i ddim wedi pobi o’r blaen.
- Beth ydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod y lleoliad?
Rwyf mor falch fy mod i’n gwneud rhywbeth rwy’n ei fwynhau.
- Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?
Byddwn i’n dweud wrthyn nhw fy mod i wedi wir fwynhau cymryd rhan yn rhaglen.
- Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch chi eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?
Rwy’n llawer mwy hyder ers dechrau’r lleoliad a gallaf fynd â’r hyder yma i’r byd real a gwneud mwy drosof fy hun.

-
- Enw: Daniel Day
- Oed: 27
- Yn dod o: Yr Wyddgrug
- Nod: Gwella hyder a chyfarfod pobl newydd
- Lleoliad Presennol: Porthor mewn ysbyty cymunedol
Cwestiynau Cyflym:
- Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?
Person yn cerdded, biniau, cawell
- Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?
Fel arfer bar o siocled
- Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?
Gwrando
- Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?
Dyddiaduron y Porthor gyda Rowan Atkinson
Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Daniel:
- Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Rwyf wedi mwynhau cyfarfod pobl newydd a dod i adnabod y staff.
- Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?
Cael adborth cadarnhaol rheolaidd gan y staff.
- Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?
Rydw i nawr yn gwybod sut i symud cleifion yn ddiogel ac yn gywir.
- Beth ydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod y lleoliad?
Rwy’n falch iawn fy mod i’n gallu dilyn trefn ddyddiol a chwblhau tasgau yn eithaf cyflym.
- Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?
Byddwn i’n dweud wrthyn nhw faint o gymorth mae staff a’r tiwtor yn ei roi i chi, ac y byddan nhw’n gwneud addasiadau i weithio o’ch cwmpas chi. Mae’n ffordd dda o wella eich hyder os nad ydych chi’n hyderus, oherwydd gallwch chi roi cynnig ar bethau na fyddech chi fel arfer yn eu gwneud o bosibl.
- Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch chi eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?
Rwyf wedi synnu fy mod i wedi cael y cyfrifoldeb o gwblhau tasgau’n annibynnol mor fuan yn ystod y lleoliad, ond rwy’n teimlo’n falch am hyn.

-
- Enw: Katie Jane
- Oed: 29
- Yn dod o: Mostyn
- Nod: Gwella fy sgiliau cyflogadwyedd a chael cymorth i ddod o hyd i swydd
- Lleoliad Presennol: Cymhorthydd gweinyddol mewn meddygfa yn y Fflint
Cwestiynau Cyflym:
- Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?
- Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?
Bar siocled a the perlysiau.
- Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?
Y sgìl orau rwyf wedi’i dysgu hyd yma yw rheoli amser.
- Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?
‘Lovely Laurels’ a byddai Katy Perry yn chwarae fi.
Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Katie:
- Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Y pethau rwyf wedi mwynhau eu dysgu yn ystod fy lleoliad yw agor dogfennau’r cleifion, llungopïo dogfennau’r cleifion, sganio dogfennau’r cleifion, gwirio dogfennau trydydd parti y cleifion ac argraffu dogfennau’r cleifion.
- Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?
Fy mhresenoldeb a’m gallu i gadw amser.
- Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?
Agor dogfennau cleifion a’u rhoi yn eu trefn yn ôl y dyddiad.
- Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod y lleoliad?
Y peth rwy’n fwyaf balch fy mod wedi’i ddysgu yn ystod y lleoliad yw sut i lungopïo dogfennau cleifion a gwirio dogfennau trydydd parti y cleifion.
- Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?
Fy nghyngor i rywun sy’n ystyried interniaeth â chyngor yw siarad gyda’r tîm interniaeth â chyngor HFT os ydych chi eisiau gwneud interniaeth â chymorth.
- Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?
Y ffaith fy mod i’n unigolyn sy’n gweithio’n galed iawn.

-
- Enw: Lilly
- Oed: 19
- Yn dod o: Mancot
- Nod: Doeddwn i ddim eisiau mynd i’r coleg ac roeddwn yn teimlo y byddai’r lleoliad yn fy helpu i ddysgu sgiliau newydd a chael tri chyfle i roi cynnig ar leoliadau gwaith gwahanol.
- Lleoliad Presennol: Cymhorthydd mewn caffi yn y Fflint
Cwestiynau Cyflym:
- Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?
Mwg o goffi, brechdan, padell ffrio gydag wy.
- Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?
Siocled.
- Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?
Rhyngweithio gyda chwsmeriaid.
- Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?
Y Dywysoges a’r Broga a byddai Emma Watson yn chwarae fi.
Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Lilly:
- Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Dysgu sut i ddefnyddio’r offer gwahanol fel y peiriant barista.
- Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?
Cymorth gan fy nhiwtor /mentoriaid swydd a staff y caffi.
- Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?
Mynd at bobl ddieithr a siarad yn gyfforddus.
- Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Sut i ddefnyddio’r peiriant barista.
- Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?
Mae’n gyfle da na ddylech chi ei golli.
- Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?
Rwy’n teimlo’n fwy cyfforddus i ofyn am help.

-
-
- Enw: Shane
- Oed: 20
- Yn dod o: Sir y Fflint
- Nod: Roeddwn eisiau dysgu sgiliau newydd a chyfarfod pobl newydd a chael profiad gwaith i ddeall yr amgylchedd gwaith.
- Lleoliad Presennol: Porthor Ysbyty’r GIG
Cwestiynau Cyflym:
- Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?
Bisgedi
- Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?
Gwaith tîm
- Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?
Y Gyfres ‘House’ a byddai Tom Holland yn chwarae rhan porthor.
Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Shane:
- Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Dysgu cynifer o sgiliau â phosibl.
- Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?
Mae’r staff yn gyfeillgar ac yn gefnogol.
- Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?
Siarad yn amlach a chael sgiliau trefnu wrth fod yn gyfrifol am y gwastraff.
- Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Dysgu cynifer o sgiliau ag y gallaf.
- Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?
Byddwn i’n dweud wrthyn nhw i gymryd y cyfle ac ymuno, oherwydd byddan nhw nid yn unig yn cael profiad gwaith yn ystod y lleoliadau byddan nhw hefyd yn dysgu sgiliau newydd ac yn cyfarfod pobl newydd sy’n gefnogol ac yn gyfeillgar, ac a allai fod yn ffrindiau yn y dyfodol.
- Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?
Fy mod i wedi dod yn fwy hyderus wrth siarad gyda phobl newydd yn hawdd.
-

-
- Enw: Thomas
- Oed: 29
- Yn dod o: Treffynnon
- Nod: Rwyf eisiau cael gwaith cyflogedig
- Lleoliad Presennol: Paentio ac addurno gyda chwmni Wall-Lag
Cwestiynau Cyflym:
- Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?
Brwsh paent, car a thŷ
- Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?
Rôl selsig Gregg’s
- Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?
Siarad gyda mwy o bobl
- Os byddai eich lleoliad yn fflim, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?
Tom y Paentiwr, a byddai Chris Hemsworth yn fy chwarae i
Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Thomas:
- Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Paentio ac addurno a mynd i’r gwaith gyda fy mentoriaid.
- Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?
Gweithio gyda’r bobl o Wall Lag.
- Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?
Siarad gyda mwy o bobl.
- Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Dysgu sgiliau paentio newydd a gwella fy hyder.
- Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chymorth?
Ewch amdani!
- Beth sydd wedi eich synnu amdanoch eich hun ers i chi ddechrau’r rhaglen interniaeth?
Bod fy hyder wedi gwella, ac rydw i wedi dysgu sgiliau paentio newydd.
-
- Enw: Arijus
- Oed: 18
- Yn dod o: Sir y Fflint
- Nod: Roedd angen cymorth arnaf i gael gwaith cyflogedig
- Lleoliad Presennol: Cymhorthydd domestig mewn ysbyty cymunedol
Cwestiynau Cyflym:
- Fedrwch chi ddisgrifio eich lleoliad mewn tri emoji?
Mop, bwced a menig.
- Beth yw eich hoff snac yn ystod y diwrnod gwaith?
Rhywbeth melys fel toesen neu deisen.
- Beth yw’r sgìl orau rydych chi wedi’i dysgu hyd yma?
Rydw i wedi dysgu am y cadachau cod lliw gwahanol sy’n cael eu defnyddio mewn ardaloedd gwahanol.
- Os byddai eich lleoliad yn ffilm, beth fyddai enw’r ffilm a phwy fyddai’n eich chwarae chi?
Fel Pin mewn Papur, gyda Ryan Reynolds a Rob McElhenny.
Dewch i ddysgu rhagor am leoliad Arijus:
- Beth ydych chi wedi mwynhau ei ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Dysgu’r holl sgiliau newydd fel mopio a dysgu am yr holl gadachau cod lliw gwahanol/mopiau
- Beth sydd wedi eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith?
Cyfarfod y staff, y rheolwr a’r goruchwylwyr. A chael fy mentor swydd gyda mi.
- Enwch un peth rydych chi’n gallu ei wneud nawr, nad oeddech chi’n gallu ei wneud o’r blaen?
Mopio lloriau.
- Beth rydych chi’n fwyaf balch eich bod wedi’i ddysgu yn ystod eich lleoliad?
Cyfarfod y staff a mopio oherwydd doeddwn i ddim wedi gwneud hyn o’r blaen.
- Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried interniaeth â chyngor?
Byddwch yn ei fwynhau – mae’r staff yn gyfeillgar ac yn garedig.
- Beth sydd wedi eich synnu fwyaf amdanoch eich hun ers dechrau’r rhaglen interniaeth?
Rwyf wedi synnu pa mor gyflym wnes i ddysgu sgiliau newydd a pha mor gyflym wnes i ymgartrefu gyda’r tîm.
Diolch enfawr i bob intern sydd wedi rhannu’r sylwadau gwerthfawr hyn am eu profiadau hyd yma! Rydym yn dymuno’n dda iddynt yn eu lleoliadau!
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am NSID, naill ai o safbwynt intern neu weithiwr proffesiynol, ewch i: National Supported Internship Day | DFN Project SEARCH
Neu gallwch lawrlwytho pecyn gwybodaeth yma: Intern Document
#NSID2026