Skip to content

Mae buddsoddiad parhaus yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn hanfodol i helpu i adeiladu cartrefi newydd i ddiwallu’r galw cynyddol, yn ogystal â chefnogi rhaglen ddatgarboneiddio sylweddol i wneud cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni.

Dyna rai o’r prif negeseuon a amlygwyd yn ystod sesiwn a drefnwyd gan bedair cymdeithas tai cymdeithasol yng ngogledd Cymru ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam heddiw (Dydd Iau, Awst 7).

Ar y panel oedd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra; Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin; Siân Gwenllian, AS dros Arfon; Alun Edwards, Rheolwr Eiddo ClwydAlyn, Steffan Evans o Sefydliad Bevan a Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor.

Roedd y drafodaeth yn cynnwys galwadau am broses gynllunio symlach i’w gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i ddatblygu cartrefi newydd; mwy o gyllid i weithredu rhaglen Safonau Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru ac effaith ehangach y sector tai ar lesiant tenantiaid a chymunedau, yn ogystal â’r economi ehangach.

“Roedd hwn yn gyfle gwych i gael trafodaeth wirioneddol ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector a thrafod atebion i helpu ein cwsmeriaid a’n cymunedau i ffynnu.

“Mae’n cael ei gydnabod yn eang bod Cymru yng nghanol argyfwng tai, gyda galw cynyddol am gartrefi fforddiadwy a thai marchnad agored. Mae’n hawl ddynol sylfaenol i bobl gael cartref sy’n ddiogel ac yn fforddiadwy. Nid oes un ateb penodol i’r argyfwng, ond drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

“Mae ewyllys clir o fewn y sector tai cymdeithasol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac i ni chwarae ein rhan, ond i wneud hynny mae angen buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag angen i ni edrych ar ein prosesau benthyca ein hunain.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu erbyn 2026 ac mae gan gymdeithasau tai rôl i’w chwarae wrth helpu i gyrraedd y targed hwnnw. Ond mae datblygiadau newydd yn dod â’u heriau eu hunain o ran yr angen i nodi tir ar gyfer datblygu ac ymdrin â phrosesau a gweithdrefnau cynllunio cymhleth. Mae angen i ni weld prosesau symlach a fyddai’n arwain at gymdeithasau tai a datblygwyr yn gallu symud yn gyflymach.”

“Mae gennym ni hefyd heriau sylweddol ynghylch cynlluniau uchelgeisiol i ddatgarboneiddio ein stoc tai presennol, gan gynnwys bodloni heriau gweithredu Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023. Byddai'r Safonau hyn yn helpu i wneud ein cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni, ond mae cwestiynau mawr ynghylch ariannu'r rhaglen. Mae pob darparwr tai cymdeithasol wedi cyflwyno eu cynlluniau buddsoddi i Lywodraeth Cymru i'w hystyried, ond mae ariannu'r gwelliannau hyn yn debygol o fod yn her sylweddol a gwirioneddol”.

“Er bod gan bob cymdeithas tai eu rhaglen fuddsoddi yn eu heiddo presennol a'u cartrefi newydd, mae manteision ehangach i'n cymunedau lleol hefyd. Rydym yn credu'n gryf mewn cefnogi economi gogledd Cymru a chadw'r bunt yn lleol. Mae hyn yn dod â manteision ehangach, nid yn unig i'r economi ond i gymunedau ehangach trwy greu swyddi'n lleol a chefnogi'r iaith a diwylliant Cymreig yn ein cymunedau”.
llefarydd ar ran y Pane