Mae gardd synhwyraidd groesawgar wedi agor yn swyddogol yng Nghartref Nyrsio Llys y Waun, Y Waun, ger Wrecsam. Ar ôl sawl mis o waith cynllunio, codi arian, a gwaith caled, cafodd y rhuban ei dorri gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Tina Mannering, ynghyd â swyddog cyswllt anabledd Clwb Pêl-droed Wrecsam, Kerry Evans. Daeth preswylwyr, staff, teuluoedd ac aelodau’r gymuned leol ynghyd i ddathlu.
Jane Humphreys, Rheolwr Llys y Waun, gafodd y syniad o greu gardd synhwyraidd newydd yn arbennig ar gyfer preswylwyr oedrannus a phobl sy’n byw gyda dementia.
Mae’r ardd yn cynnig amgylchedd diogel yn yr awyr agored lle mae natur, lliw, arogl, sain a gwead yn cyfuno i roi hwb i lesiant preswylwyr, procio’r cof, a’u helpu i ymlacio. O lwybrau hygyrch, clychau gwynt a dŵr yn rhedeg i flodau persawrus, nodweddion gweledol trawiadol a gwelyau uchel sy’n ddelfrydol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn – mae pob elfen wedi cael ei hystyried yn ofalus i greu ardal hollol gynhwysol i ymlacio.
Roedd creu’r ardd synhwyraidd yn Llys y Waun yn waith tîm a oedd yn golygu llawer iawn o ymchwil, codi arian, ac oriau maith o waith gwirfoddol gan staff a phreswylwyr. Ffrwyth yr holl waith caled yw’r ardd amlsynhwyraidd hyfryd, sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol.
Roedd agoriad swyddogol yr ardd yn ddathliad arbennig iawn, ac yn gyfle i ddangos y prosiect i’r gymuned leol.
“I bobl sy’n byw gyda dementia, mae cadw’r meddwl yn effro yn bwysig iawn, ac mae’r ardd newydd wych hon yn sicr yn mynd i helpu pobl i wneud hynny.”
“Mae’r ardd yn cynnwys gwelyau o flodau gwyllt brodorol, a phlanhigion lliwgar a hardd yn y gwelyau. Hefyd, mae yna nodwedd ddŵr hyfryd a photiau o lysiau, ffrwythau a pherlysiau, felly gall y preswylwyr helpu gyda’r gwaith plannu a chynaeafu. Mae’r llwybr yn cynnwys meinciau wedi’u paentio â llaw a goleuadau bach; felly mae rhywbeth yma i bawb ei fwynhau – yn enwedig yr addurniadau ceirw bach. Dyma ddarn bach o’r nefoedd!”
Roedd Jane hefyd yn awyddus i ddiolch i Cadwch Gymru’n Daclus am roi grantiau cymunedol sydd wedi bod yn help mawr i dalu am yr ardd, gan gynnwys y rhandir.



























