Skip to content

Llongyfarchiadau i’r bencampwraig golff Gladys Hughes, (ar y dde) am ddod i’r brig yng nghystadleuaeth y Royal Oak Bowl yng Nghlwb Golff Betws-y-Coed yn gynharach yn y mis.

Roedd Gladys, sy’n 86 oed, wrth ei bodd i dderbyn yr anrhydedd arbennig hon am chwarae rownd o golff gwych, gyda sgôr net o 68! Enillodd Gladys gydag un ergyd, a chyflwynwyd y Gwpan iddi gan Anna Evans (ar y chwith), sef Llywydd Merched Clwb Golff Betws-y-Coed 2025, a pherchennog gwesty’r Royal Oak ym Metws-y-Coed.

Mae Gladys yn aelod gweithgar o Glwb Golff Betws-y-Coed ac wedi bod yn chwarae am dros 45 o flynyddoedd. Dechreuodd chwarae golff ar ôl derbyn cyngor gan ei meddyg i ddechrau cerdded i wella ei hiechyd.

Mae Gladys yn dioddef o arthritis sy’n gallu effeithio ar ei dwylo. Dywedodd: “Dydy’r arthritis ddim yn fy atal rhag chwarae golff. Gall fod yn boenus iawn, ond rwy’n gwybod os byddaf yn dal ati, bydd yn teimlo’n well”.
Ychwanegodd, “Rwy’n falch dros ben i ennill y Gwpan. Roeddwn wedi bod yn meddwl am ymddeol o golff yn gynharach eleni gan fod fy nwylo a’m coesau yn boenus iawn. Rwyf mor falch na wnes i roi’r gorau iddi!”
Gladys Hughes
Resident at Hafan Gwydir and Golfer

Mae Gladys yn ysbrydoliaeth i drigolion Hafan Gwydir, y cynllun byw’n annibynnol yn Llanrwst. Mae hi wedi byw yno ers 2018, ac mae hi’n aelod gweithgar o Gymdeithas Tenantiaid Hafan Gwydir.

“Rydyn ni mor falch o lwyddiant Gladys! Mae hi’n llawn egni ac yn annog llawer o’n trigolion a’n staff i ddilyn ei hesiampl!
“Ddeuddydd cyn iddi ennill y Royal Oak Bowl, daeth Gladys yn drydydd yng nghystadleuaeth Diwrnod Llywydd y Merched!
“Da iawn Gladys, rydyn ni’n falch iawn ohonoch chi!”

Sian Taylor
rheolwr Hafan Gwydir