Byddai rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn golygu na fyddai neb yn cysgu ar y strydoedd nac yn byw mewn llety dros dro. Byddai pobl yn gallu dewis lle maent yn dymuno byw ac ym mha fath o ddeiliadaeth. Byddai cymunedau sefydlog yn datblygu lle gall pobl ffynnu, byw’n dda ac elwa ar y cyfleoedd a ddaw o gael cyfeiriad parhaol a chartref sy’n angor mewn bywyd.
Mae ein cynllun corfforaethol 2025 – 2030 yn nodi ein cenhadaeth i roi diwedd ar dlodi yng Ngogledd Cymru.
Bum mlynedd yn ôl, gwnaethom ymrwymo i ddefnyddio ein hadnoddau i wneud llawer mwy na bod yn landlord da, a mynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu llawer o’n cymunedau ledled y rhanbarth.
Rydym wedi cyflawni llawer yn ystod y cyfnod hwn – o adeiladu dros 1,000 o gartrefi newydd o ansawdd a buddsoddi llawer iawn i wneud ein cartrefi presennol yn gynhesach ac yn fwy fforddiadwy i’w gwresogi, creu partneriaethau i sicrhau bod bwyd fforddiadwy, iach ar gael a darparu profiadau a chyfleoedd gwaith i bobl leol ifanc.
Er bod ein gwaith yn dal i wneud gwahaniaeth, rydym yn gwybod fod tlodi ac anghydraddoldebau ar gynnydd ledled Gogledd Cymru, ac mae graddfa’r her yn golygu mai’r unig ffordd y gallwn gyflawni’r nodau ac amcanion uchelgeisiol hyn yw drwy gydweithio.
Os ydych chi’n rhannu’r un nodau ac rydych yn awyddus i weld sut gallwn wneud mwy a gweithio’n well gyda’n gilydd, mae croeso i chi gysylltu â ni yn communications@clwydalyn.co.uk i drefnu sgwrs gyda’n Tîm Gweithredol.