Skip to content

Mae cymdeithas dai sy’n gwasanaethu cymunedau ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru yn dymuno diolch o galon i breswylwyr, staff a chontractwyr sydd wedi helpu i gasglu gwerth dros £6,500 o fwyd ar gyfer ei gasgliad banciau bwyd blynyddol, i helpu teuluoedd mewn angen dros gyfnod y Nadolig.

Dechreuodd y darparwr tai cymdeithasol, ClwydAlyn, ei gasgliad banciau bwyd blynyddol chwe blynedd yn ôl. Y staff sy’n gyfrifol am ei drefnu, mewn cydweithrediad â chyflenwyr, partneriaid, a phreswylwyr. Mae’r fenter yn casglu swm sylweddol o fwyd ac eitemau cartref hanfodol ar adeg pan mae llawer o unigolion a theuluoedd yn teimlo straen ariannol.

Caiff y cyfraniadau eu casglu o gynlluniau preswyl a chymunedol niferus ClwydAlyn, yn ogystal â’i bencadlys yn Llanelwy, a’u hanfon i fanciau bwyd lleol ledled y rhanbarth.

Galw Cynyddol am Fanciau Bwyd

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae costau bwyd wedi cynyddu dros draean. Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, dywedodd Ymddiriedolaeth Trussell, elusen gwrth-dlodi a threfnydd banciau bwyd cymunedol, ei bod wedi dosbarthu tua 172,000 o barseli bwyd argyfwng yng Nghymru, gan gynnwys tua 60,000 i blant. Yn ôl yr elusen, mae nifer y parseli a ddosbarthwyd gan fanciau bwyd ledled Cymru wedi cynyddu dros 20% ers y cyfnod cyn y pandemig.

Mae banciau bwyd yn aml yn rhan hanfodol o fywyd i bobl sy’n cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd; maent yn cynnig parseli bwyd argyfwng, nwyddau ymolchi ac eitemau cartref yn ogystal â chyfeirio pobl at rwydweithiau cymorth eraill.

Mae ClwydAlyn yn cydnabod yr heriau parhaus sy’n wynebu llawer o’i breswylwyr ac aelodau o gymunedau lleol, yn enwedig yn ystod misoedd oer y gaeaf.

Cymunedau lleol yn elwa ar ymroddiad staff

Trefnwyd y casgliad unwaith eto eleni gan Louise Smith-Aldous, Swyddog Iechyd a Diogelwch Prosiectau Gweithredol ClwydAlyn.

“Mae pobl yn ei chael yn anodd ac mae hyn yn fwy amlwg nag erioed. Diolch i’n preswylwyr, staff a chontractwyr sydd wedi cyfrannu at gasgliad banciau bwyd 2025; mae eu caredigrwydd a’u hymroddiad i helpu ein cymunedau lleol yn amhrisiadwy.”
Louise Smith-Aldous
Swyddog Iechyd a Diogelwch Prosiectau Gweithredol ClwydAlyn
“Diolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r casgliad banciau bwyd eleni. Hoffwn ailadrodd ein neges i unrhyw breswylwyr sy’n wynebu trafferthion – cysylltwch â’ch swyddog tai. Gallan nhw drefnu atgyfeiriad i’r banc bwyd yn gyflym ac yn gyfrinachol.
“Gallwn ni hefyd helpu neu gyfeirio pobl at wasanaethau cymorth ychwanegol, gan gynnwys rheoli arian, cyngor ar fudd-daliadau, neu sefydliadau cymunedol.
“A diolch yn fawr iawn i’n cydweithiwr Louise am drefnu’r casgliad hwn; heb os, bydd o gymorth mawr i lawer o deuluoedd ledled y rhanbarth.”
Suzanne Mazzone
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Preswylwyr ClwydAlyn

Cafodd y bwyd a gasglwyd ei roi i 11 banc bwyd a sefydliadau bwyd cymunedol, gan gynnwys: Banc bwyd Abergele, Christ Church – Banc bwyd Shotton, Age Connects – Banc bwyd Y Fflint, Depo Banc Bwyd Wrecsam, Canolfan Gristnogol Sussex Street – Banc bwyd Y Rhyl, Banc bwyd Hope Restored – Banc bwyd Llandudno, Banc bwyd Caergybi – Ynys Môn, Banc Bwyd – Banc bwyd Pwllheli, The Community Cupboard – Banc bwyd Y Waun, Festival Church – Banc bwyd Prestatyn, Banc Bwyd Dinbych.

Cyfrannodd cydweithwyr a phreswylwyr ClwydAlyn a sawl cynllun preswyl at y casgliad. Mae ClwydAlyn hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfraniadau hael neu arian a dderbyniwyd gan y canlynol i brynu bwyd:

  • Wall Lag (Wales) Ltd, Yr Wyddgrug
  • Castle Carpets, Gogledd Cymru
  • Bridge Garage, Y Rhyl
  • D&L Contracting
  • MACP, Glannau Dyfrdwy
  • Williams Homes (Bala) Ltd
  • Total Boilers, Wrecsam
  • Wakemans, Caernarfon
  • K&C Construction, Llanelwy
  • Relm Construction
  • Law Construction
  • MD Specialist Cleaning
  • NWPS
  • Heatons
  • BGB Scaffolding
  • Litegreen
  • Canolfan Blant y GIG