Skip to content

Diffyg cyflenwad dŵr yn Sir y Fflint

Os yw’r diffyg cyflenwad dŵr yn Sir y Fflint yn effeithio arnoch, cadwch lygad ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol Dŵr Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf a manylion am leoliad gorsafoedd dŵr potel.

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn cael trafferth ymdopi heb gyflenwad dŵr, mae gan Dŵr Cymru Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth sy’n eu galluogi i ofalu am y bobl y mae angen dŵr arnynt fwyaf, felly edrychwch ar eu gwefan – Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth | Dŵr Cymru a chofrestrwch i gael cymorth os ydych chi’n bodloni’r meini prawf.

Mae ClwydAlyn yma i’ch helpu hefyd felly os ydych yn cael unrhyw broblemau cysylltwch â ni ar 0800 183 5757.

Gall y wybodaeth ganlynol fod yn ddefnyddiol hefyd os byddwch heb ddŵr:

  • Os ydych chi wedi bod yn agor eich tapiau i weld a yw’r dŵr yn rhedeg, cofiwch eu cau hefyd, rhag ofn bydd y cyflenwad dŵr yn dod yn ôl pan fyddwch allan.
  • Ni fydd y diffyg dŵr yn effeithio ar systemau gwresogi boeleri combi, dim ond y dŵr poeth.
  • Bydd eich toiled yn fflyshio unwaith yn unig.