Skip to content

Mae ClwydAlyn yn credu bod pob tenant yn haeddu byw mewn cartref diogel, iach, a chysyrus. Dyna pam ein bod yn falch o godi safon byw tenantiaid o dan y Safon Ansawdd Tai Cymru newydd (SATC), a chreu dyfodol lle mae “safon” yn golygu llawer mwy na bodloni’r gofynion sylfaenol yn unig. Mae’n golygu darparu cartrefi sy’n cefnogi eich llesiant, eich cysur, a’ch dyfodol.

Er mwyn eich helpu i ddeall Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a sut rydym yn gwella cartrefi ledled Gogledd Cymru, rydym wedi cynhyrchu fideo byr sy’n esbonio’r newidiadau allweddol, beth sydd ei angen i fodloni’r safonau hyn, a sut byddant o fudd i chi fel tenant.

Beth mae SATC yn ei olygu i chi 

Nod canllawiau newydd SATC yw gwneud eich cartref yn fwy diogel, yn fwy iach, ac yn fwy cadarn. O dan y canllawiau newydd, dyma’r safonau rydym yn anelu amdanynt, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl ar gyfer eich cartref:

1
Cartrefi sy’n cael eu hadeiladu i bara
Dylai eich cartref fod yn gadarn yn strwythurol, o’r lloriau i’r nenfwd. Dim craciau, dim gollyngiadau – dim ond lle cysurus lle gallwch chi a’ch teulu ffynnu.
2
Cartrefi Saff a Diogel
Mae teimlo’n ddiogel yn dechrau yn y cartref. Gyda ffenestri diogel, drysau cadarn, a mesurau diogelwch tân effeithiol, bydd eich cartref yn lle diogel i fyw.
3
Cartrefi Fforddiadwy sy’n Effeithlon o ran Ynni
Dylai cartref cynnes a chroesawgar fod yn fforddiadwy i’w wresogi hefyd. Bydd canllawiau newydd SATC yn gwella effeithlonrwydd ynni felly bydd eich cartref yn aros yn gysurus wrth i gostau ynni ostwng.
4
Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi Modern
Dylai ceginau ac ystafelloedd ymolchi ateb anghenion modern, yn hytrach na chael eu diweddaru ar sail oed yn unig. O ymarferoldeb i ddiogelwch, bydd gan eich cartref y nodweddion hanfodol ar gyfer eich anghenion bob dydd.
5
Arolygon Cyflwr Rheolaidd
Mae cynnal Arolwg Cyflwr Stoc rheolaidd yn golygu y gallwn asesu cyflwr eich cartref o safbwynt traul cyffredinol, ac effeithlonrwydd ynni. Mae’r arolygon hyn yn golygu y gallwn sylwi ar unrhyw welliannau angenrheidiol, felly bydd eich cartref bob amser mewn cyflwr da ac yn hybu eich llesiant.
6
Cartrefi sy’n gofalu am eich Llesiant
Mae’n bwysig eich bod yn gysurus, felly dylai eich cartref gael ei inswleiddio’n dda a bod yn effeithlon o ran ynni, a hybu iechyd da a llesiant.
7
Mynediad at Ardaloedd Awyr Agored
Mae cael mynediad at ardal awyr agored addas yn hanfodol er mwyn i chi ymlacio a gofalu am eich llesiant meddyliol. Rydym am i chi gael mynediad i ardaloedd gwyrdd lle gallwch ymlacio a mwynhau’r awyr iach.
8
Ardaloedd cyffredin deniadol, sy’n cael eu cynnal yn dda
Mae eich cartref yn rhan o gymuned, felly dylai fod mewn ardal sy’n ddeniadol ac yn ymarferol, gydag ardaloedd sy’n cael eu cynnal yn dda ac sy’n hybu teimlad o berthyn.

Cynnal Cartrefi o Safon Uwch

Rydym yn falch o osod y safon ar gyfer tai yng Nghymru. Gyda’r canllawiau newydd hyn, rydym nid yn unig am wella cartrefi ledled Gogledd Cymru, rydym hefyd wedi ymroi i wella eich bywydau a’ch llesiant hefyd.

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn gwybod fod llawer o fanylion wedi’u cynnwys yma ac mae’n bosibl fod gennych gwestiynau, felly rydym wedi darparu rhai cwestiynau cyffredin a fydd yn eich helpu i ddeall yn well beth mae SATC yn ei olygu i chi a’ch cartref.

Am ragor o wybodaeth, gallwch hefyd ddarllen adroddiad Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru a’n Datganiad Cydymffurfio.

Mae’r SATC newydd yn gosod y safonau ar gyfer pob cartref gan sicrhau eu bod yn ddiogel, yn gadarn, yn effeithlon o ran ynni ac wedi’u hadeiladu ar gyfer y dyfodol. Mae’n golygu sicrhau bod eich cartref yn cefnogi eich iechyd, hapusrwydd a’ch llesiant.

Er mwyn i ni fodloni safonau LlC:

  • Dylai eich cartref fod yn gadarn yn strwythurol.
  • Rhaid iddo fod mewn cyflwr da, ni ddylai fod yn wan nac yn dadfeilio.
  • Rhaid i’ch cartref fod yn rhydd rhag lleithder.
  • Dylai grisiau fod yn ddiogel.

Dylai eich cartref fod yn saff ac yn ddiogel

  • Mae teimlo’n ddiogel yn dechrau yn y cartref. Dyna pam bydd eich drysau a’ch ffenestri yn gadarn ac yn ddiogel, gan ddilyn canllawiau ‘Secured By Design’ yr heddlu.
  • Mae diogelwch tân yn flaenoriaeth hefyd, rhaid i’ch cartref gael synwyryddion gwres a mwg, a llwybr dianc diogel a hawdd os bydd argyfwng.
  • Yn achos cartrefi sy’n defnyddio nwy, olew, neu danwydd solet, byddwn yn cynnal archwiliadau diogelwch blynyddol i’ch cadw yn ddiogel. Byddwn yn cynnal archwiliadau diogelwch trydanol bob pum mlynedd, ac yn rhoi copïau i chi.

Dylai eich cartref fod yn gynnes, yn fforddiadwy i’w wresogi a chael yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd:

  • Dylai cartref cyfforddus deimlo’n gynnes ac yn groesawgar, ond mae angen iddo fod yn fforddiadwy i’w wresogi hefyd. Dyna pam ein bod yn gwneud pob cartref mor effeithlon o ran ynni â phosibl.
  • Bydd eich cartref wedi’i awyru’n gywir, yn enwedig mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi, i gadw’r aer yn ffres ac yn iach. Bydd gosodiadau a dyfeisiau arbed dŵr hefyd yn helpu i leihau eich biliau ac o fudd i’r amgylchedd.

Dylai eich cegin a’ch ystafell ymolchi fod yn fodern ac yn ymarferol

  • Dylai eich cegin a’ch ystafell ymolchi fod yn fodern ac yn ymarferol, a bod yn addas ar gyfer eich dibenion bob dydd. Mae hynny’n golygu y gosodiadau diweddaraf, lloriau sy’n atal llithro, a digon o le ar gyfer eich teclynnau hanfodol.
  • Dylai ceginau gael lle ar gyfer ffwrn, oergell, a pheiriant golchi, a dylai ystafelloedd ymolchi gynnwys cawod, a bath os yw’n bosibl.
  • Os nad oes ardal ar gyfer golchi, sychu a chrasu dillad, dylem ddarparu peiriant sychu dillad.

Dylai eich cartref fod yn gysurus a dylai fodloni eich anghenion

  • Mae’n bwysig eich bod yn gysurus. Dyna pam dylai fod digon o le yn eich cartref gyda gorchuddion llawr o ansawdd da, gan roi teimlad cynnes a chroesawgar.
  • Dylid lleihau sŵn cymaint â phosibl, a dylai waliau a ffenestri o ansawdd da helpu i leihau unrhyw broblemau. Rydym hefyd yn sicrhau bod cartrefi yn addas i breswylwyr hŷn a phobl ag anableddau.

Dylai ardaloedd awyr agored fod yn hygyrch a chael eu cynnal yn dda

  • Yn ogystal â bod yn ddeniadol, mae ardaloedd awyr agored yn bwysig i’ch llesiant hefyd. Dyna pam rydym yn sicrhau bod gan gartrefi fynediad at ardaloedd awyr agored diogel, ymarferol, sy’n cael eu cynnal yn dda, ac sy’n hybu teimlad o gymuned.
  • Lle bo’n bosibl, bydd gan gartrefi lwybrau diogel, hygyrch a mannau i storio beiciau neu offer garddio. Bydd ardaloedd awyr agored cyffredin yn cael eu dylunio i fod yn groesawgar ac yn hawdd eu cynnal, gyda digonedd o wyrddni sy’n gadael i olau’r haul dreiddio drwyddo.

Dyma’r prif derfynau amser byddwn yn gweithio tuag atyn nhw:

31 Mawrth 2025:

  • Asesu cyflwr cartrefi fel ein bod yn gwybod pa waith mae angen ei wneud.
  • Creu cynllun ac amcangyfrifo cost gwelliannau i gyrraedd y safonau.
  • Ymgysylltu â phreswylwyr i sicrhau bod eich barn yn cael ei chynnwys yn y broses. Byddwn hefyd yn rhoi eich adborth i LlC.

31 Mawrth 2027:

  • Rhaid i bob cartref fodloni safonau SATC.

Mae gwrando ar breswylwyr, a chydweithio â nhw, yn hanfodol i’n helpu i gyrraedd y safon a siapio ein gwasanaethau. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n grŵp Dylanwadwch.

Os hoffech ymuno â Dylanwadwch, anfonwch e-bost atom:

InfluenceUs@ClwydAlyn.co.uk

Safon Ansawdd Tai Cymru

Polisi Safon Ansawdd Tai Cymru

Cysylltwch:

Os oes gennych gwestiynau neu mae angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni yn WHQS@clwydalyn.co.uk. Mae eich llais yn bwysig i ni, a gyda’n gilydd, gallwn ddal ati i godi safon byw pob tenant yng Ngogledd Cymru.