Bydd Hen Bentre Pwylaidd, sydd wedi’i amgylchynu gan 20 erw o diroedd prydferth ym Mhen Llŷn, Gwynedd, yn darparu 42 o gartrefi i bobl 55 oed a throsodd mewn cymuned groesawgar, gyda gofal hyblyg 24/7 a chymorth yn ôl yr angen ar y safle, gan roi tawelwch meddwl nawr ac yn y dyfodol.
Byw’n annibynnol gyda gofal a chymorth
Mae’r ffordd o fyw arloesol yma yn cynnig y cydbwysedd perffaith o annibyniaeth a thawelwch meddwl, gan gyfuno’r rhyddid o fyw yn eich cartref eich hun â sicrwydd gofal cartref a chymorth 24 awr ar y safle, wedi’i deilwra i’ch anghenion.
Manteision
- Byw’n annibynnol yn eich cartref eich hun.
- Gofal 24/7 gyda system larwm personol i roi tawelwch meddwl.
- Gellir darparu gofal cartref yn seiliedig ar eich anghenion unigol, a gaiff eu hasesu gan Gyngor Gwynedd.
- Rydych yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth i aros yn annibynnol.
- Rheolwr y Cynllun a staff ar y safle i’ch helpu i reoli eich tenantiaeth.
- Byw mewn cartref diogel a chynnes sy’n cael ei gynnal yn dda.
- Prydau ar gael bob dydd yn y bwyty ar y safle.
- Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn budd-dal tai ar gyfer taliadau rhent neu daliadau gwasanaeth, yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.
Ein treftadaeth
Gweledigaeth newydd ar gyfer Hen Bentre Pwylaidd
Cafodd yr holl eiddo ar y safle eu trosglwyddo gan y Gymdeithas Dai Bwylaidd i ClwydAlyn fel rhan o gynllun ar y cyd i ailddatblygu ac adfywio’r safle. Mae’r gwaith ailddatblygu bellach yn mynd rhagddo i greu dyfodol newydd ar gyfer Hen Bentre Pwylaidd—a chreu cartrefi o ansawdd da ac effeithiol o ran ynni, ynghyd â gwasanaethau iechyd a gofal modern, gan sicrhau bod y pentref yn dal i fod yn lle diogel, croesawgar a bywiog am flynyddoedd i ddod.
Y gwaith ailddatblygu
Mae Tai ClwydAlyn, ar y cyd â Chyngor Gwynedd, yn datblygu 107 o gartrefi o ansawdd da ar y safle – cymysgedd o fflatiau, bynaglos a thai rhent. Bydd y datblygiad newydd hwn yn disodli’r holl lety presennol ar y safle a hynny mewn tri cham, dros gyfnod o ryw 3–5 o flynyddoedd. Mae Cam 1 yn canolbwyntio ar gynllun byw’n annibynnol i bobl dros 55 oed yr aseswyd bod ganddynt angen gofal a chymorth.
- 30 fflat (cartrefi 1 a 2 ystafell wely) — wrth ddyrannu’r cartrefi hyn rhoddir blaenoriaeth i bobl o’r gymuned leol sydd ag anghenion gofal a chymorth isel i ganolig.
- 12 byngalo — wrth ddyrannu’r cartrefi hyn rhoddir blaenoriaeth i bobl o’r gymuned leol sydd ag anghenion gofal a chymorth isel i ganolig.
Mae cysylltiad agos rhwng y datblygiad o dai fforddiadwy ym Mhenrhos a chynlluniau Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu cartref gofal preswyl a nyrsio newydd ar y safle. Bydd yr adeilad hwn yn cydymffurfio â safonau rheoleiddio modern ac yn cynnwys ystafelloedd en‑suite a nodweddion sy’n gyfeillgar i ddementia i gefnogi anghenion preswylwyr.
Mynegwch eich diddordeb ac ymgeisiwch
Hen Bentre Pwylaidd
Sut i wneud cais
Ni waeth a ydych chi’n chwilio am le i chi eich hun neu aelod o’r teulu neu ffrind, gallwch gael rhagor o wybodaeth a mynegi eich diddordeb drwy lenwi ein ffurflen gais.
Wrth ymgeisio ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r fersiwn diweddaraf o Adobe neu PDF Reader. Lawrlwythwch y ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur, yna gallwch ychwanegu eich manylion / ei llenwi yn electronig. Ar ôl i chi ei llenwi a’i chadw, anfonwch atom: help@clwydalyn.co.uk
Copi papur
I wneud cais am gopi papur, ffoniwch 0800 183 5757 neu e-bostiwch: help@clwydalyn.co.uk
Ar ôl i chi ei llenwi, anfonwch y ffurflen i’r cyfeiriad canlynol: Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, ClwydAlyn, 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD.