Skip to content

Yn ddiweddar, cynhaliwyd gweithdy pedwar diwrnod o hyd mewn cynllun byw â chymorth yn Sir y Fflint i helpu pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd i wella eu sgiliau bywyd a deall sut i gynnal iechyd meddwl da.

Cydweithiodd staff cynllun byw â chymorth Llys Emlyn Williams yn Nhreffynnon â gwasanaeth ‘Sgiliau Ychwanegol Gogledd Cymru’ Action for Children i gynnig cwrs trawsnewidiol a oedd yn canolbwyntio ar adeiladu sgiliau bywyd effeithiol.

Mae gwasanaeth Sgiliau Ychwanegol Gogledd Cymru ar gael i bobl ifanc 14-24 oed sydd wedi cael profiad o’r system ofal. Mae’r cwrs The Decider Skills yn canolbwyntio ar set o 32 o sgiliau sy’n cefnogi profiadau bywyd ac iechyd meddwl cadarnhaol; mae 16 o’r sgiliau yn canolbwyntio ar dderbyn ac 16 ar newid.

Mae’r cwrs yn ystyried meysydd datblygiad allweddol, gan gynnwys dioddef trallod, ymwybyddiaeth ofalgar, rheoli emosiynau a sgiliau rhyngbersonol effeithiol.

Mae’r cyfan yn seiliedig ar gysyniad o’r enw The Fizz (adnabod arwyddion corfforol trallod emosiynol yn y corff), a deall sut mae ‘Teimlo’r Fizz’ yn ymwneud â’r ymateb ymladd/ffoi/rhewi/syrthio; mae’r cwrs yn helpu cyfranogwyr i newid eu hymddygiad byrbwyll ac ymateb mewn ffordd newydd, llai byrbwyll, at sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau. Y nod yw helpu’r cyfranogwyr i gael canlyniadau mwy cadarnhaol yn sgil eu gweithredoedd.

“Roedd y gweithdy sgiliau estynedig yn canolbwyntio ar adnabod a deall emosiynau a dysgu sut i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd anodd. Roeddwn i’n falch dros ben o’r bobl ifanc wnaeth gymryd rhan yn y sesiynau, ac rwy’n ddiolchgar i arweinydd y cwrs Lisa, am rannu rhai negeseuon pwerus.”
Sean McManus
Rheolwr Llys Emlyn Williams
  • Dywedodd Pam, un o’r preswylwyr, fod pawb wedi mwynhau dysgu am ‘Fynydd Iâ Dicter’. “Roedd yn gynrychioliad gweledol pwerus ac mae wedi fy helpu i ddeall sut gall rhwystredigaeth, pwysau, cenfigen ac amharch gronni.”
  • Dywedodd y preswyliwr Shaun: “Roedd y rhan Goddef Straen yn werthfawr iawn: – Aros, anadlu, arsylwi, safbwynt, ymarfer.”
  • Ym marn Alex, un arall o’r preswylwyr, roedd yr adnodd ‘barn neu ffaith’ yn ddefnyddiol iawn ac mae wedi bod yn defnyddio’r sgiliau newydd yn ei fywyd bob dydd wrth sgwrsio gydag aelodau staff a phreswylwyr eraill.

Roedd yr holl breswylwyr a gymerodd ran yn y cwrs wedi dewis gwneud hynnny, ac fe wnaeth pump ohonynt gwblhau’r cwrs pedwar diwrnod o hyd. Y farn gyffredinol oedd bod y gweithdai yn ddifyr, yn hwyl ac yn addysgol.

“Rydyn ni’n defnyddio pob math o bropiau i ddysgu sgiliau The Decider er mwyn gwneud y cyfan yn fwy cofiadwy ac yn hwyl. Rydyn ni’n cynnwys profiadau real o’r byd go iawn os yw hynny’n berthnasol ac fe wnaeth o leiaf un aelod o staff gymryd rhan ym mhob gweithdy, er mwyn datblygu iaith a gwybodaeth ar y cyd.
“Roedd yr adborth o’r cwrs yn gadarnhaol iawn, a dywedodd y bobl ifanc eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ac yn llai pryderus ar ôl y sesiynau. Mae technegau fel rheoli dicter, sgiliau cyfathrebu a rheoli emosiynau wedi bod yn hynod o werthfawr ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y sgiliau hyn yn dal i helpu’r bobl ifanc wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar eu dyfodol.”
Lisa Reakes
Action for Children

Mae Llys Emlyn Williams yn gynllun byw â chymorth 12 ystafell wely i bobl ifanc ddigartref, 16-24 oed. Mae’r cynllun yn darparu pob math o weithgareddau i hybu sgiliau bywyd y preswylwyr ifanc. Mae lleoedd yn Llys Emlyn Williams yn cael eu dyrannu drwy Gyngor Sir y Fflint.

Mae cwrs The Decider Skills yn cael ei ddarparu gan wasanaeth ‘Sgiliau Ychwanegol Gogledd Cymru’ Action for Children ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Skills Plus + | North and Mid Wales | Action For Children