Mae preswylwyr cynllun byw’n annibynnol yn y Fflint wedi dod at ei gilydd i nodi Sul y Cofio 2025 a chreu arddangosfa drawiadol o babïau wedi’u gwneud â llaw. Maent wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Maer i gydnabod eu teyrnged greadigol.
Mae Llys Raddington, yng nghanol tref y Fflint, yn gynllun byw’n annibynnol i bobl dros 60 oed. Mae’r preswylwyr yn mwynhau bywyd cymdeithasol amrywiol, ac fe wnaethant gael syniad i greu arddangosfa o babïau.
Penderfynodd Jane, ynghyd â’r preswylwyr Susan Peers, Barbara Foulkes a Maureen Parry, baentio gwaelodion y poteli plastig yn goch i greu’r gosodiad pabïau. Mae’r arddangosfa yn cynnwys cannoedd o flodau wedi’u gwneud â llaw a gafodd eu clymu’n gelfydd i rwyll wifrog. Yna, defnyddiwyd goleuadau coch trawiadol i oleuo’r gwaith celf a dau silwét o filwr.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld am gyfnod ar ôl Sul y Cofio, felly bydd cyfle i gymuned Llys Raddington dalu teyrnged i’r rhai sydd wedi marw mewn rhyfeloedd.
I gael rhagor o wybodaeth am Llys Raddington, ewch i: https://www.clwydalyn.co.uk/cy/llys-raddington-flintshire/