Mae preswylwyr wedi dechrau symud i mewn i’w cartrefi newydd ar ddatblygiad newydd gwerth £11 miliwn ClwydAlyn, sef Maes y Llan ar Ffordd Rhuddlan, Bodelwyddan yn Sir Ddinbych.
Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi trosglwyddo’r allweddi i breswylwyr newydd cam un datblygiad Maes y Llan ym Modelwyddan, Sir Ddinbych. Symudodd y preswylwyr i’r 21 o gartrefi newydd ym Maes y Llan, Bodelwyddan, Sir Ddinbych. Bydd y 24 o gartrefi sy’n weddill yn cael eu cwblhau yn y Flwyddyn Newydd. Mae’r cartrefi modern am oes yn cael eu hadeiladu gan K&C Construction, fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Sir Ddinbych. Mae cartrefi cam un yn cynnwys 17 o dai dwy a thair ystafell wely, yn ogystal ag 16 o fflatiau un a dwy ystafell wely.
Defnyddio Technolegau Gwyrddach a Dyluniadau Arloesol i Adeiladu Tai
I helpu preswylwyr i ymdopi â chostau cynyddol tanwydd a lleihau’r effaith niweidiol gall tai sy’n llai effeithlon o ran ynni ei chael ar iechyd, llesiant, a’r amgylchedd, defnyddiwyd Dulliau Adeiladu Modern i godi pob eiddo ym Maes y Llan. Maent hefyd yn elwa ar lefelau uchel o inswleiddio, a phympiau gwres ffynhonnell aer i ddarparu gwres a dŵr poeth. Yn ogystal â hyn, mae ganddynt baneli trydan solar ac maent wedi’u lleoli i wneud y mwyaf o wres yr haul a golau naturiol.
Hefyd:
- Mae gan bob cartref gyfleusterau gwefru cerbyd trydan
- Defnyddiwyd cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl i’w hadeiladu
- Defnyddiwyd gweithgynyrchwyr a chyflenwyr lleol ar gyfer y defnyddiau adeiladu, gan gadw’r ôl-troed carbon yn isel
“Mae’n newid mawr iawn ac yn amseru perffaith mewn pryd ar gyfer y Nadolig.”
“Mae’r cartrefi yn cyfuno dyluniad ynni isel, gyda datrysiadau gwres cynaliadwy, felly gall ein preswylwyr fwynhau cartrefi cynhesach sy’n rhatach i’w rhedeg ac yn well i’r amgylchedd. Rydyn ni’n dymuno Nadolig llawen, diogel a chynnes iawn i’n preswylwyr newydd ym Maes y Llan!”
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau newydd ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/developments
I gael rhagor o fanylion am ddatblygiad Maes y Llan, ewch i: Maes y Llan, Ffordd Rhuddlan – Clwydalyn