Skip to content

Bu rhanddeiliad, gan gynnwys Marj Cooper, Rheolwr Strategaeth Dai Cyngor Sir y Fflint, yn ymweld â datblygiad ClwydAlyn, Northern Gateway, yr wythnos ddiwethaf. Trefnwyd yr ymweliad i ddathlu cwblhau 100 o gartrefi newydd fforddiadwy, effeithlon o ran ynni, i deuluoedd lleol.  

Roedd y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi gwahodd rhanddeiliad lleol i gael golwg ar ddatblygiad Northern Gateway yn Garden City, Glannau Dyfrdwy.

Adeiladwyd y cartrefi gan Castle Green Partnerships a chawsant eu datblygu ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru. Mae’r safle mawr yn cynnwys tai dwy, tair a phedair ystafell wely yn ogystal â byngalos dwy ystafell wely, a fflatiau un a dwy ystafell wely.

Mae teuluoedd lleol wrth eu bodd yn symud i’r cartrefi modern sy’n effeithlon o ran ynni, gan olygu y bydd modd arbed arian ar filiau cyfleustodau misol.

“Rwy’n falch dros ben fy mod yn symud yma heddiw. Byddaf yn byw yma gyda fy mab James, sy’n dair oed; bydd yn cynnig cymuned a dechrau newydd i bawb.”
Charlotte Booth
Resident
“Mae fy nghartref newydd yn anhygoel, ac rwy’n teimlo’n lwcus iawn i symud yma. Roeddwn i a fy merch wyth oed yn ddigartref ym mis Ionawr gan fod y llety rhent lle roeddem yn byw wedi mynd yn rhy ddrud. Roedd y to yn gollwng a rhwng popeth dydyn ni erioed wedi teimlo bod gennym gartref tan heddiw. Mae gan fy merch ei hystafell wely ei hun.”
Kayleigh Evans
Resident
“Roeddem yn falch dros ben o groesawu pawb i Northern Gateway i weld y datblygiad arbennig hwn.
“Rydym wedi creu cant o gartrefi ar gyfer preswylwyr yr oedd angen lleoedd diogel, cysurus a fforddiadwy i fyw arnynt yn Sir y Fflint. Mae darparu’r math o gartrefi sy’n galluogi ein preswylwyr i ddechrau o’r newydd a gwella eu hamodau byw wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn ClwydAlyn.
“Rydym wedi clywed straeon teimladwy iawn gan breswylwyr newydd y cartrefi hyn. Mae’n wych cael cyfle i ddangos i’n rhanddeiliaid y gwahaniaeth mae’r cartrefi hyn wedi’i wneud i 100 o deuluoedd lleol.”

Brinley Williams
Rheolwr Datblygu Prosiectau ClwydAlyn

I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau newydd ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/developments