Skip to content

Cynhaliwyd seremoni torri’r dywarchen i nodi dechrau ar brosiect adeiladu ac ailddatblygu ClwydAlyn yng nghymuned hanesyddol, Pentref Pwylaidd Penrhos, ger Pwllheli, Gwynedd.

Cynhaliwyd y seremoni i nodi dechrau’r gwaith ailddatblygu y bu disgwyl mawr amdano ar safle unigryw yng nghanol Gwynedd a fu’n gartref i filwyr, awyrenwyr, gweithwyr y llynges a sifiliaid ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac yn ganolfan hyfforddi’r Awyrlu cyn hynny.

Ddydd Gwener, 18 Gorffennaf, daeth cynrychiolwyr Cyngor Gwynedd, Conswl Anrhydeddus Gweriniaeth Gwlad Pwyl, ClwydAlyn, Williams Homes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a nifer o gyn-drigolion a thrigolion presennol ynghyd i wylio’r seremoni.

BUDDSODDI YM MHENTREF PWYLAIDD PENRHOS

Ym mis Medi 2020 trosglwyddodd y Gymdeithas Dai Bwylaidd yr holl eiddo i ClwydAlyn fel rhan o drefniant uno. Ar y pryd, roedd cartref gofal yr henoed, 90 eiddo preswyl, eglwys, a sawl ardal gyffredin ar y safle, gan gynnwys cyfleusterau bwyta.

Oherwydd oedran ac adeiladwaith y tai presennol, byddai angen buddsoddiad sylweddol i’w huwchraddio. Roedd llawer iawn o’r cartrefi yn wag gan eu bod mewn cyflwr gwael, felly penderfynwyd dymchwel y cartrefi preswyl hyn a’u hailadeiladu gyda gweledigaeth newydd: darparu cartrefi o ansawdd uchel, effeithlon o ran ynni, a gwasanaethau iechyd a gofal mewn lleoliad pentref unigryw.

“Roedden ni’n falch iawn o gynnal y seremoni hon, sy’n nodi carreg filltir bwysig iawn yn natblygiad Penrhos.

“Bydd y cartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu yma yn cynnig dyfodol sefydlog i’n trigolion presennol ac yn ein galluogi i groesawu llawer iawn o drigolion newydd hefyd.”

Michal Drewenski
Rheolwr Pentref Pwylaidd Penrhos

CARTREFI NEWYDD YM MHEN LLŶN, GWYNEDD

Mae ClwydAlyn wedi gweithio’n agos gyda’r partneriaid, Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i nodi’r gofynion tai yn yr ardal a datblygu cartrefi y gellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion y trigolion hynny.

Pan fydd y gwaith o ailddatblygu’r safle wedi’i gwblhau, bydd 107 o gartrefi newydd yn darparu tai fforddiadwy.

“Mae Penrhos yn safle hanesyddol a diwylliannol pwysig iawn, ac rwy’n falch y bydd y gwaith ailddatblygu yn darparu cartrefi o ansawdd i’r trigolion presennol ac yn helpu i ateb y galw ehangach am dai ym Mhen Llŷn. Mae Gwynedd yn dal i wynebu pwysau sylweddol yn y maes tai oherwydd yr argyfwng tai cenedlaethol, ac mae’r datblygiad hwn yn rhan bwysig o Gynllun Gweithredu’r Cyngor i fynd i’r afael â’r prinder tai yn y sir a sicrhau bod cartrefi fforddiadwy, o ansawdd, ar gael i bobl leol yn eu cymunedau. Mae gweithio mewn partneriaeth â ClwydAlyn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn golygu ein bod yn gallu dod ag arbenigedd ac adnoddau ynghyd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r gymuned unigryw a phwysig hon.”
Cynghorydd Paul Rowlinson
Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd
“Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i sefydlu darpariaeth gofal preswyl ar safle Penyberth ym Mhenrhos. Yn anffodus, mae prinder difrifol o leoedd mewn cartrefi nyrsio ledled y sir, ac mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth yn ardal Llŷn, lle mae’n rhaid i bobl deithio o’u cymunedau eu hunain i dderbyn gofal priodol.

“Bydd y model gofal blaengar rydyn ni’n ei ddatblygu yma yn cael ei gynnwys yn y datblygiad tai cyffrous sydd hefyd wedi’i gynllunio ar gyfer y safle, er mwyn ateb anghenion lleol.

“Mae sicrhau y gall pobl leol dderbyn y gofal a’r dewisiadau tai maen nhw’n eu haeddu heb orfod symud i ffwrdd o’u teuluoedd a’r ardaloedd lle maen nhw wastad wedi byw yn flaenoriaeth i’r Cyngor, felly hoffwn longyfarch yr holl bartneriaid am y cydweithio gwych sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Rwy’n falch o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud er budd cymunedau’r ardal.”
Cynghorydd Dilwyn Morgan
Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd, a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Partneriaeth Penrhos

Mae arwyddocâd yr ailddatblygiad wedi ennyn diddordeb cymunedau lleol a rhyngwladol, sy’n awyddus i gofnodi’r cynnydd a hanes Penrhos. Mae grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Ffilm Lodz yng Ngwlad Pwyl, un o ysgolion ffilm fwyaf adnabyddus y byd, yn cynhyrchu ffilm ddogfen am y safle ar hyn o bryd.

Roedd Conswl Anrhydeddus Gweriniaeth Gwlad Pwyl gydag Awdurdodaeth dros Gymru, yr Athro Keshav Singhal a’i wraig Poonam Singhal yn bresennol yn y seremoni torri’r dywarchen. Dywedodd yr Athro Singhal: “Roedd yn bleser cael bod yn bresennol yn seremoni ailddatblygu Penrhos yn rhinwedd fy swydd fel Conswl Anrhydeddus Gwlad Pwyl yng Nghymru a chynrychioli Conswl Cyffredinol Gwlad Pwyl.

“Mae gan Penrhos le arbennig iawn yn y gymuned Bwylaidd yng Nghymru ac mae sawl cenhedlaeth o Bwyliaid wedi byw yno am ddegawdau lawer ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

“Rydyn ni’n falch bod y prosiect am geisio cadw treftadaeth Bwylaidd y safle, gan gryfhau’r cyfeillgarwch rhwng Gwlad Pwyl a Chymru a chofio am aelodau Lluoedd Arfog Gwlad Pwyl, y gwnaeth llawer ohonyn nhw aros ym Mhentref Pwylaidd Penrhos am weddill eu bywydau.”
Athro Keshav Singhal
Conswl Anrhydeddus Gweriniaeth Gwlad Pwyl gydag Awdurdodaeth dros Gymru

Mae ClwydAlyn yn gweithio gyda CADW i sicrhau bod treftadaeth Gwlad Pwyl a Chymru yn cael eu cadw ym Mhenrhos. Mae’r Groes Ryddid wedi cael ei rhestru fel adeiledd o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol a bydd yr eglwys a’r gerddi â wal o’u cwmpas yn cael eu gwarchod hefyd.

DATBLYGIAD CYNALIADWY

Bydd pob cartref newydd ym Mhenrhos yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth.

Nod ClwydAlyn yw helpu trigolion i leihau costau tanwydd a lleihau’r effaith mae cartrefi sy’n llai effeithlon o ran ynni yn ei chael ar iechyd a lles pobl. Bydd pob eiddo yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio technolegau gwyrddach a dyluniadau arloesol, gan gynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli trydan solar.

“Rydyn ni’n falch o ddatblygu’r cartrefi o ansawdd hyn ar gyfer trigolion yn ardal Gwynedd. Byddan nhw’n helpu pobl i fyw’n annibynnol ac yn dod â manteision hirdymor i’r gymuned gyfan, gan ei galluogi i dyfu a ffynnu.

“Bydd y cartrefi hyn yn rhan o nodwedd gynhwysol ym Mhentref Pwylaidd Penrhos, ac yn parchu hanes Gwlad Pwyl a Chymru yn y lleoliad diddorol hwn.”
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn

Roedd y cynllun hwn yn bosibl diolch i fuddsoddiad grant Llywodraeth Cymru, yn dilyn trafodaethau rhwng ClwydAlyn, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.