Skip to content

Fel rhan o Wythnos Cartrefi Gofal Agored (16-22 Mehefin), cafodd y preswylwyr, teuluoedd a staff yng Nghartref Gofal Merton Place ym Mae Colwyn fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a chofiadwy.

Dydd Llun daeth myfyrwyr o gôr Coleg Dewi Sant draw i berfformio eu hoff ganeuon i gorau i breswylwyr Merton Place. Roedd croeso i bawb ymuno a mwynhau’r cyswllt gydag aelodau’r côr, sydd hefyd yn cael llawer iawn allan o’u teithiau i gyfarfod y preswylwyr mewn oed.

Yn hwyrach yn yr wythnos daeth casgliad o ymwelwyr blewog, mewn cragen a chennog i Merton Place o Animal Encounters. Fe wnaeth y preswylwyr fwynhau cyfarfod a rhoi anwes i’r mochyn cwta fflwffiog, y gwningen, y crwbanod anarferol a’r nadroedd, gan gynnwys ‘Mango’ peithon 12 troedfedd o hyd, seren y sioe, y gwnaeth rhai preswylwyr dewr iawn gydio ynddi.

Mae’r gweithgareddau hyn yn rhan o’r amserlen arferol o ddigwyddiadau diddorol ym Merton Place. Maen nhw’n rhoi cyfle i’r preswylwyr rannu cyfnodau o lawenydd a dysgu, ac yn golygu eu bod yn mwynhau eu bywyd o ddydd i ddydd yn fwy, gyda phrofiadau sy’n addas i’w dewisiadau a’u gallu nhw eu hunain

“Mae ein preswylwyr i gyd mor wahanol, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei ddathlu yma. Boed rhywun yn mwynhau gweithgaredd grŵp bywiog neu adegau tawelach, rydym yn gofalu bod rhywbeth i bawb.”
Valerie Smith
Cydlynydd Gweithgareddau

Trwy gydol yr wythnos agorodd Merton Place ei ddrysau i groesawu ffrindiau, aelodau o’r teuluoedd, darpar breswylwyr a’u gofalwyr. Gallai ymwelwyr fwynhau’r gweithgareddau, mynd ar daith o gwmpas y cyfleusterau a chawsant gynnig cyfle i siarad â’r staff am fywyd yn y cartref, dewisiadau gofal, dewisiadau cymorth a maethiad. Gan helpu i roi darlun cyflawn o’r bywyd y gall preswylwyr ei ddisgwyl.

“Mae Wythnos Cartrefi Gofal Agored yn rhoi cyfle i ni agor drysau Merton Place a dangos sut yr ydym yn darparu gofal llawn cydymdeimlad, sy’n rhoi’r pwyslais ar yr unigolyn. Mae’r staff wrth eu boddau yn rhannu’r cartref gyda’r gymuned ehangach a dangos sut yr ydym yn cefnogi ein preswylwyr i gael y mwyaf o bob dydd.”
Edward Hughes
Cyfarwyddwr Gofal a Chefnogaeth
“Fy mam yw’r peth mwyaf gwerthfawr i mi ac mae gwybod ei bod yn cael gofal yn rhyddhad mawr. Mae Mam wedi bod ym Merton Place am bron i 7 mlynedd ac ni allaf ganmol digon ar y staff am roi gofal mor dda iddi a’i chadw mewn cysylltiad â’i theulu. Mae rhoi aelodau o’r teulu mewn cartref gofal yn benderfyniad anodd ond mae cael cartref gofal ardderchog yn helpu i leihau unrhyw bryderon.”
Adolygydd ar gyfer Merton Place

Dywedodd aelod o deulu arall: “Mae’r gwasanaeth a’r gofal y mae Mam yn eu cael yn ddi-ail. Rwy’n gwybod ei bod mewn dwylo da a diogel, mae’r bwyd wastad yn dda. Mae’r staff yn gyfeillgar ac yn ateb unrhyw gwestiynau.”

Ar hyn o bryd mae nifer fechan o leoedd ar gael ym Merton Place, sy’n ddelfrydol i breswylwyr sydd angen gofal nyrsio neu breswyl llawn-amser. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.clwydalyn.co.uk/mertonplace neu ffoniwch 01492 523 375 i drefnu ymweliad.