Mae’r 12 preswyliwr olaf wedi symud i ddatblygiad newydd o 56 o gartrefi ynni-effeithlon ym Mynydd Isa, Sir y Fflint.
Bydd y cartrefi modern, a ddatblygwyd gan ClwydAlyn ar y cyd â’r contractwr Castle Green Partnerships, Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru, yn cynnig sylfaen gadarn i deuluoedd yn ardal Mynydd Isa.
Cartrefi am Oes i Breswylwyr Lleol
Dechreuwyd ar y gwaith o godi’r 56 o gartrefi ar Ffordd yr Wyddgrug ym mis Awst 2023 ac mae’r datblygiad bellach wedi’i gwblhau ar amser. Mae’r cartrefi, a gynlluniwyd i fodloni anghenion preswylwyr wrth iddynt newid, yn cynnig cyfuniad o gartrefi un, dwy, a thair ystafell wely, ac yn cynnwys byngalos, fflatiau, tai pâr a thai ar wahân, yn ogystal â byngalo hygyrch. Mae pob cartref yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol gan gynnwys Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru, a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.
Mae Sophie newydd symud i fyw i’r datblygiad gyda’i theulu. Dywedodd: “Mae fy mab Leo yn chwech oed ac mae fy merch Ivy yn bedair, ac roedden ni’n arfer byw mewn fflat heb ardd a dim lle i chwarae. Mae’r ardaloedd agored y tu mewn a’r tu allan yn wych yma. Mae’n newid anferth i ni; mae’r stryd yn teimlo’n ddiogel, ac mae’r parc dim ond dau funud i ffwrdd.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i symud i mewn heddiw ac rydyn ni hapus dros ben bod popeth wedi’i gwblhau a bod ein cartref yn effeithlon o ran ynni hefyd; bydd y biliau yn wych. Hoffwn ddiolch i ClwydAlyn am wneud y cyfan yn bosib.”
Mae pob cartref yng nghynllun Mynydd Isa wedi cael ei adeiladu i gefnogi’r amgylchedd a chynnig arbedion effeithlonrwydd ar danwydd, gan y olygu bydd y preswylwyr yn arbed arian ar eu biliau. Mae’r cartrefi yn cynnwys:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli solar trydan
- Cartrefi sydd wedi’u lleoli i wneud y mwyaf o wres yr haul a golau naturiol
- Cyfleusterau gwefru ceir trydan
Dywedodd y preswyliwr newydd Bronwyn: “Rwy’n edrych ymlaen cymaint ac yn teimlo mor lwcus i symud yma. Mae mor dawel yma, a bydd yn berffaith i fy mab 11 oed, sydd ag ASD ac ADHD ac sy’n ddeallus iawn. Gan ein bod yn symud yma, rwyf wedi llwyddo i gael lle iddo yn yr ysgol uwchradd leol, sydd â chanolfan adnoddau ar gyfer ei anghenion, felly gall aros mewn ysgol brif ffrwd. Mae byw yma yn golygu ein bod yn llawer agosach at fy nheulu a’n rhwydwaith cefnogaeth, ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rwyf hefyd yn fy mlwyddyn gyntaf yn astudio ar gyfer gradd nyrsio, a bydd gen i le i astudio, ar ôl ennill anrhydedd llawn yn fy nghwrs blaenorol. Mae’n teimlo fel petai popeth wedi dod at ei gilydd ar yr un pryd, ac mae symud yma wedi rhoi hwb mawr i mi!”
“Gyda chostau byw yn dal i gynyddu, bydd y cartrefi newydd hyn, sydd wedi’u hinswleiddio’n hynod o dda, yn helpu ein preswylwyr i arbed ynni ac arian yn y tymor hir hefyd a bydd hyn yn lleihau straen a helpu eu llesiant.
“Mae’r cartrefi cynnes a diogel hyn yn nodi dechrau newydd i’n preswylwyr; ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddynt ar y bennod newydd hon yn eu bywydau.”
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau newydd ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/developments




