Skip to content

Mae’r broses o ymgeisio yn Sir Wrecsam ychydig yn wahanol i ardaloedd cynghorau eraill. Mae ClwydAlyn yn dal i gadw rhestr aros ar gyfer ein heiddo yn Sir Wrecsam. Rydym yn rhannu ein dyraniadau fel hyn: mae 50% o enwebiadau yn mynd ar restr aros y cyngor a 50% ar ein rhestr aros ein hunain. Os ydych yn dymuno dod i fyw yn Sir Wrecsam rydym yn argymell eich bod yn ymgeisio ar gyfer rhestr Wrecsam a’n rhestr ni (ClwydAlyn) hefyd

Sut i Ymgeisio

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am restr aros ClwydAlyn ar gyfer ardal Wrecsam, llenwch y ffurflen gais (gweler isod) a’i hanfon atom cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol:

Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, ClwydAlyn, 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD.
E-bost: help@clwydalyn.co.uk 

Gallwch lenwi ffurflen ar-lein hefyd; fodd bynnag, ar sail profiad ac adborth pobl eraill, rydym yn argymell eich bod yn llenwi ffurflen bapur. I wneud cais am ffurflen bapur, ffoniwch 0800 183 5757 neu e-bostiwch: help@clwydalyn.co.uk 

Pan fyddwch yn ymgeisio ar-lein, gwnewch yn siŵr fod gennych y fersiwn diweddaraf o Adobe neu PDF Reader. Lawrlwythwch y ffurflen gais, cadwch hi ar eich cyfrifiadur, yna ychwanegwch eich manylion / llenwi’r ffurflen yn electronig. Ar ôl i chi lenwi a chadw’r ffurflen, anfonwch hi atom: help@clwydalyn.co.uk

Wrexha

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

I ymgeisio ar gyfer rhestr Wrecsam, dilynwch y cyswllt hwn i fynd â chi i wefan Cyngor Wrecsam. Os ydych chi’n gymwys am dai cymdeithasol, byddwch yn cael eich rhoi yn y band cofrestr dai.
Wrexham Council Website

Ffurflen ymholiad

pdf
Nodiadau ymgeisio
Lawrlwythwch
pdf
Ffurflen gais
Lawrlwythwch